GO Wales

Astudiaethau Achos

Vasco
Roedd y gweithiwr llawrydd uchelgeisiol, Vasco de Sousa, yn awyddus i ddatblygu ei yrfa fel awdur. Ar ôl clywed am Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales, penderfynodd wneud cais i weld sut y gallai elwa ar y cwrs. Esbonia Vasco…
Doug Hunt
Gwnaeth Doug Hunt, myfyriwr gradd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Abertawe, gais i Academi’r Gweithwyr Llawrydd i ddatblygu ei fusnes cynllunio gwefannau a gwasanaethau ar-lein, Elect New Media.
Chiara Vecchi
Mae Chiara Vecchi yn astudio MA mewn cyfieithu ieithoedd ym Mhrifysgol Abertawe. Trefnodd GO Wales flas ar waith iddi i ennill profiad gyda chwmni cyfieithu Veritas. Gydag uchelgeisiau o ddilyn gyrfa fel cyfieithydd llawrydd, gwnaeth Chiara gais i wneud cwrs hyfforddi’r Academi Llawrydd i ennill dealltwriaeth fwy eglur o farchnata ac agweddau ariannol...
Nicola Jones website
Cyflwynodd Nicola Jones gais i Academi’r Gweithwyr Llawrydd i’w helpu i wireddu ei huchelgais i fod yn ddylunydd gwefannau hunan gyflogedig. Yn y cyfweliad byr hwn mae Nicola’n esbonio pam mae hi’n credu mai gyrfa lawrydd yw’r ffordd ymlaen…
Kat Dawes
Bu Kat Dawes, sy’n ôl-raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg, yn gweithio am bum mlynedd fel awdur ac is-olygydd i gylchgrawn syrffio yng Nghernyw. Ar ôl colli ei swydd penderfynodd ddilyn PhD mewn Ysgrifennu Creadigol gyda’r bwriad o ddatblygu eu gyrfa fel awdur.
Iestyn Roberts
Roedd Iestyn Roberts yn cychwyn ar ei waith fel animeiddydd 3D llawrydd pan glywodd am Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales. Fel yn achos llawer o unigolion wrth iddyn nhw ddechrau ar y daith at hunangyflogaeth, bu bron iddo gael ei orlethu gan yr holl wybodaeth yr oedd yn rhaid iddo ei phrosesu. Roedd Iestyn yn awyddus i fynychu cwrs a fyddai’n cwmpasu’r cyfan a’i helpu i wneud y dechreuad gorau i’w yrfa mewn animeiddio.