Academi Graddedigion
Oes gradd gennych?
Nawr mynnwch swydd raddedig gyda chymorth yr Academi Graddedigion.
Rhaglen hyfforddiant am ddim yw Academi Graddedigion GO Wales sydd â’r nod o roi’r sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen ar raddedigion diweddar i ennill gwaith cyflogedig. Mae cyflogwyr heddiw yn chwilio am dystiolaeth go iawn o’r sgiliau, galluoedd a dealltwriaeth o’r byd gwaith, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol a dysgu achrededig.
Mae manteision y rhaglen unigryw hon yn cynnwys:
- Hyfforddiant am ddim i raddedigion sy’n byw yng Nghymru - gwerth hyd at £2,500.
- Cyrsiau preswyl yn Llanbedr-pont -Steffan, Gorllewin Cymru, ynghyd â phrofiad gwaith ymarferol yn y lleoliad o’ch dewis yng Nghymru. Mae Academi rhan amser, heb fod yn breswyl hefyd ar gael ar gyfer graddedigion sy’n gweithio/gwirfoddoli.
- Canolbwynt masnachol - enillwch sgiliau arwain a rheolaeth sylfaenol a gwybodaeth sy’n berthnasol i amgylcheddau gwaith go iawn.
- Cyfle i sylweddoli eich gwir botensial, cynyddu eich cymhelliant a hyder a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i farchnata eich hun yn llwyr i gyflogwyr.
- Cymorth gan hyfforddwyr a thiwtoriaid sydd â phrofiad helaeth mewn diwydiant – cyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill a rhannu profiadau gyda phobl sydd yn yr un sefyllfa â chi.
- Cymhwyster a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), sy’n cael ei gydnabod gan gyflogwyr ledled y byd - mae’n arddangos eich ymwybyddiaeth fasnachol a’ch cyflogadwyedd ac yn agor drysau i gyfleoedd graddedig a/neu ddyrchafiad.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am yr Academi Graddedigion:
Yr Academi nesaf:
Gorffennaf 2012
“Ni fyddwn wedi cael y profiad hwnnw heb gymorth GO Wales ac fe’m ysbrydolwyd i ddilyn yr yrfa roeddwn am ei chael. Gadewais y brifysgol â gradd ardderchog ond heb gyfeiriad a dim llawer o gefnogaeth. Hyd yn oed ar ôl i chi orffen yr Academi Graddedigion, maent yn parhau i gynnig cymorth. Byddaf yn cofio fy amser i gydag Academi Graddedigion am byth.”