GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Grŵp o bobl yn gwenu

Angie Sarah Contestabile

Teimlo’n dda am y dyfodol

Cymerodd 16 o raddedigion o bob cwr o Gymru ran yn Academi Graddedigion GO Wales ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar er mwyn hybu eu rhagolygon o ran gyrfaoedd.

Dyma bedwaredd Academi’r Graddedigion i ddigwydd yng Nghymru; mae’r rhaglen yn cynnwys pythefnos o hyfforddiant preswyl yn Llanbedr Pont Steffan a 4 wythnos o brofiad gwaith gyda chyflogwr lleol a chaiff ei thanategu gan gymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth er mwyn rhoi’r sgiliau a’r hyder i’r graddedigion sydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu mewn rôl rheoli.

Graddiodd Angie Contestabile ym mis Gorffennaf 2009 a gadawodd y Brifysgol fel rhywun graddedig ffyniannus, fodd bynnag, ar ôl misoedd o geisiadau am swyddi a chael ei gwrthod, yn fuan roedd yn teimlo fel rhif arall ymhlith ystadegau’r llywodraeth. Gwnaeth Angie gais i Academi Graddedigion GO Wales a rhoddwyd iddi gyfle i ennill profiad mewn dau wahanol amgylchedd:

“Lleolwyd fy mhrofiad gweithle cyntaf yn Ten Green Bottles; busnes bach sy’n arbenigo mewn crefftio cynhyrchion o wydr wedi’i ailgylchu. Roeddwn yn gyfrifol am gynghori’r Rheolwr Gyfarwyddwr ar logisteg teithio a chyfathrebu rhyngwladol. Hefyd bues i’n cysylltu â chysylltiadau busnes dramor a datblygu adroddiadau.”

“Hefyd cefais gyfle i ennill profiad gyda Kirsty Williams, yr AC dros Aberhonddu a Sir Faesyfed ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Roedd hyn yn brofiad rhyfeddol, lle cwrddais i â llawer o bobl enwog yn wleidyddol. Mynychais gyfarfodydd llawn yn y Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatganoledig, cynadleddau i’r wasg a chyfweliadau.”

Yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth a enillwyd o’r profiad gwaith, mae Angie hefyd wedi gweithio tuag at gymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth:

“Teimlaf mai’r cwrs ILM ei hun oedd y peth gorau i mi ei wneud erioed! Bu’r addysgu a’r gefnogaeth a dderbyniais ac dderbyniaf o hyd yn ffantastig. Mae Academi’r Graddedigion wedi fy ngalluogi i ennill cymaint yn fwy na phrofiad a chymhwyster; erbyn hyn mae gennyf rwydwaith o gysylltiadau o ran cyflogaeth; geirdaon gwych a grŵp o ffrindiau y byddaf yn sicr o gadw mewn cysylltiad â nhw.”

Fel canlyniad mae Angie bellach wedi ennill swydd fel Cynorthwyydd Prosiectau gyda SNAP Cymru , yn trefnu digwyddiadau codi arian, recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr.

Share |