GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Diabetes UK Cymru

Gemma Howell

Mae'r Academi Graddedigion yn newid bywydau

Drwy gymryd rhan yn Academi’r Graddedigion GO Wales byddwch nid yn unig yn gwella eich siawns o gael swydd, mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd, adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau defnyddiol a datblygu llawer o ffrindiau newydd.

Cymerodd Gemma Howell ran yn Academi’r Graddedigion GO Wales Graduate ym mis Mai ac enillodd brofiad rhagorol gyda Diabetes Cymru fel rhan o’r lleoliad gwaith 4 wythnos. Dyma hi’n esbonio’r hyn a enillodd o’r profiad yn gyffredinol gydag Academi’r Graddedigion:

Pam wnaethoch gais i Academi’r Graddedigion?

“Gwnes gais i Academi’r Graddedigion oherwydd roeddwn yn credu y byddai’n gyfle rhagorol i wneud cysylltiadau newydd a chael swydd, gobeithio. Roeddwn yn gwneud ceisiadau am rolau ac yn methu am nad oedd profiad gwaith gennyf. Heb swnio’n or-ddramatig, llwyddodd Academi’r Graddedigion i wedd newid fy mywyd. Mae gennyf fewnwelediad gwerthfawr i fyd gwaith a dysgais am yr hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano..”

Gwnaethoch eich profiad gwaith gyda Diabetes Cymru, beth wnaethoch tra roeddech yno?

“Yn ystod fy amser gyda Diabetes UK Cymru roeddwn yn gyfrifol am ddatblygu’r gwefan. Creais y copi a dewisais y lluniau ar gyfer adrannau ‘Gwirfoddoli’ ac ‘Ymgyrchu’ ar y wefan. Hefyd, helpais i drefnu digwyddiad ac roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd, Cynulliad Cymru. Yn ogystal, cynlluniais boster ar gyfer ymgyrch i amlygu symptomau diabetes. Yn ôl pob sôn, roedd y poster hwn yn llwyddiannus ac mae Diabetes UK wedi cytuno i’w ddefnyddio.”

Beth ydych chi’n gwneud nawr o ganlyniad i Academi’r Graddedigion?

“Ar hyn o bryd rwy’n gwneud defnydd o’r cysylltiadau newydd gwnes yn ystod Academi’r Graddedigion. Mae gennyf rai prosiectau ysgrifennu copïau a phrawf ddarllen i weithio arnynt ac felly rwy’n hapus iawn.”

Pa gyngor fyddech yn ei gynnig i raddedigion sy’n ystyried gwneud cais?

“Byddwn yn annog unrhyw raddedigion sydd wedi’u siomi gan y system bresennol i wneud cais i Academi’r Graddedigion. Mae nid yn unig yn rhoi’r sgiliau hanfodol ar gyfer cael gwaith i chi ond mae’n gyfle hefyd i gyfarfod pobl sydd yn yr un cwch â chi. Os cewch eich derbyn rhowch bopeth sydd gennych iddo gan y byddwch yn cael mwy na roeddech yn ei ddisgwyl allan ohono, fel y cefais i.”

“Hefyd, hoffwn ddiolch i drefnwyr y cwrs a’r tiwtoriaid a roddodd y cyfan iddo. Diolch GO Wales ac Academi’r Graddedigion.”

Share |