GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Erin Rickard

Erin Rickard

Erin yn dilyn ei Chelf

Roedd Erin Rickard, a raddiodd yn y Celfyddydau Cain, yn gweithio fel derbynnydd mewn gwesty pan wnaeth cais i Academi Raddedigion GO Wales. Ar ôl gorffen profiad gwaith mewn sefydliad dan arweiniad artistiaid, sef Locws International yn Abertawe, mae Erin bellach wedi ei chyflogi fel Cydlynydd Prosiect a Swyddog Arddangosfeydd. Yn y cyfweliad byr hwn, mae Erin yn esbonio sut mae’r Academi Raddedigion wedi rhoi cyfle gwych iddi ddatblygu ei gyrfa yn y diwydiant celf:

Pam wnaethoch chi gymryd rhan yn yr Academi Raddedigion? 

“Yn syml, roedd angen profiad gwaith arnaf mewn rôl rheolaeth. Roedd gennyf ardystiad Rheolwr Prosiect Prince 2, ond er hyn roedd bron yn amhosibl i mi gael fy ystyried ar gyfer y math o waith roeddwn am ei gael ac roeddwn yn gwybod y byddwn yn gallu ei wneud yn llwyddiannus. Academi Raddedigion oedd un o’r unig gynlluniau hyfforddi roeddwn wedi eu gweld a allai gynnig gwybodaeth ymarferol i mi ac, yn bwysicach fyth, y profiad angenrheidiol.”

Sut ydych chi wedi elwa o’r cwrs?

“Heb Academi Raddedigion rwy’n credu y byddwn yn dal i weithio fel derbynnydd mewn gwesty, neu byddwn i hyd yn oed yn ddi-waith. Rwy’n hynod ddiolchgar i mi gael fy nerbyn i’r Academi Raddedigion ynghyd â bod yn hapus o ran y ffordd mae fy ngyrfa wedi datblygu ers hynny. Mae’r sgiliau, y cyngor a’r profiad a gefais wedi chwarae rhan mewn cael fy swyddi presennol fel cydlynydd prosiect Locws International a swyddog arddangosfa canmlwyddiant Josef Herman.”

“Yn ogystal â’m datblygiad gyrfaol, drwy fy nghyfnod gyda’r Academi Raddedigion, deuthum wyneb yn wyneb ag eraill mewn sefyllfa debyg, ac roedd pob un ohonynt yn galonogol, yn gefnogol ac yn hwyl i weithio â nhw.”

Gorffennoch eich profiad gwaith yr Academi Raddedigion gyda Locws International. Sut brofiad oedd hwnnw?

“Mae Locws International wedi bod yn brofiad anghredadwy. O’m safbwynt i mae wedi cadarnhau mai dyma rywbeth ryw’n wirioneddol mwynhau ei wneud ac am barhau i’w wneud gydol fy oes. Mae’r rôl yn un aml ochrog sy’n golygu fy mod yn cael fy herio’n rheolaidd ymhob maes o reoli prosiect; mae wedi rhoi’r cyfle i mi fyfyrio ar yr elfennau hynny rwyf gryfaf ynddynt, ac wedi rhoi cyfle i mi weld lle mae angen i mi ddatblygu.”

“Roedd yr ychydig fisoedd cyntaf yn gromlin ddysgu serth, gydag ambell i dasg hollol newydd i mi. Fodd bynnag, nid yw’n broblem gan i’r Academi Raddedigion ddangos i mi nid yn unig sut i fod yn broffesiynol ond sut i reoli fy hun hefyd - gan ei gwneud hi’n haws i mi dderbyn syniadau a phrosesau newydd, a dysgu sut i’w rheoli yn y dyfodol. Mae gweithio gyda Locws International wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â mwy o weithwyr proffesiynol yn y maes hwn, a thrwy drafod syniadau a chyfleoedd rwyf wedi llwyddo i adeiladu rhwydwaith a fydd, rwy’n gobeithio, yn cynnig cymorth yn y blynyddoedd i ddod. Ers hynny rwyf wedi gweithio fel Cydlynydd Prosiect rhan amser gyda’r sefydliad.”

Llongyfarchiadau ar y swydd newydd! Rydych hefyd yn gweithio fel Swyddog Arddangosfeydd llawrydd i Sefydliad Celf Josef Herman Cymru. Sut ydych chi’n rheoli eich llwyth gwaith?

“Mae Sefydliad Celf Josef Herman Cymru yn dathlu canfed pen-blwydd yr arlunydd Josef Herman gydag arddangosfa deithiol arbennig. Crëwyd rôl swyddog arddangosfa er mwyn goruchwylio’r arddangosfa deithiol, i drefnu safleoedd newydd, yswirio gwaith, marchnata ac ati ac i ddiweddaru’r sefydliad wrth i weithgareddau fynd yn eu blaen. Ar gyfer y rôl hon rwy’n gweithio fel swyddog arddangosfeydd llawrydd, sy’n golygu fy mod yn gweithio ar fy mhen fy hun y rhan fwyaf o’r amser, o wahanol safleoedd, ac ar adegau afreolaidd. Mae’n ffordd wahanol i weithio gyda Locws International. Mae angen i mi fod yn hynod hunan gyfeiriedig, yn llawn cymhelliant ac, yn bwysicaf oll, yn hyblyg. Mae’r rhain i gyd yn bynciau y gwnaeth yr  Academi Raddedigion eu trafod ac rwy’n teimlo fy mod yn barod am y math hwn o waith ac yn gyffrous ynglŷn â’r dyfodol.”

Beth fyddech yn ei ddweud wrth raddedigion eraill sy’n ystyried cymryd rhan yn yr Academi Raddedigion? 

“Byddwn yn annog graddedigion i gymryd rhan, hyd yn oed os nad ydych am fod yn rheolwr – mae’r sgiliau yn drosglwyddadwy. Er na ellir galw fy swyddi presennol yn un “rheolwr” fel y cyfryw, rwy’n defnyddio’r holl sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a gefais yn ystod yr Academi Raddedigion. Mae’r gallu i reoli eich hun gydag un o’r sgiliau mwyaf defnyddiol rwyf wedi ei meithrin, ynghyd â’r profiad gwaith gwerthfawr roeddwn yn ddibynnol arno. Astudiais radd yn y Celfyddydau Cain, sydd efallai y tu allan i fyd rheoli yn eich tyb chi, ond mae’r rhaglen hon yn hyblyg a gellir ei chymhwyso ar gyfer pob pwnc a maes diwydiant. Hoffwn hefyd ychwanegu bod y staff yn GO Wales a’r Academi Raddedigion yn hynod gefnogol, cydymdeimladol, tu hwnt o galonogol yn ogystal â bod ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynoch chi a’r hyn rydych am ei wneud -  ac mae hynny’n werth llawer mwy nag y gallwch dybio”

 

 

 

Share |