GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Astudiaethau Achos

Leadbitter
Graddiodd Jason Horwood ym mis Gorffennaf 2010 gyda gradd baglor mewn Peirianneg Sifil a dechreuodd fynd ati i ddechrau ei yrfa yn y diwydiant adeiladu. Bryd hynny, roedd rolau mynediad i raddedigion yn anodd dod o hyd iddynt oherwydd bod y wlad mewn dirwasgiad a effeithiodd yn arbennig o galed ar y diwydiant adeiladu.
Andrew Maskall
Enwogrwydd oedd y peth olaf ar feddwl Andrew Maskall pan geisiodd am le yn Academi Graddedigion GO Wales yn dilyn deuddeg mis yn ddi-waith. Ar ôl lleoliad gwaith llwyddiannus yn Theatr y Stiwt, Wrecsam, mae Andrew bellach yn edrych ymlaen at ei swydd newydd fel Rheolwr Marchnata’r cwmni yn ogystal â rôl gyffrous mewn rhaglen/cyfres ddogfen ar S4C. Yma, mae Andrew yn sgwrsio â GO Wales am y ffordd mae’r Academi Graddedigion wedi newid ei fywyd er gwell...
Lowri Pearson
Graddiodd Lowri Pearson yn 2007 ac fel llawer o raddedigion mae wedi bod yn gweithio mewn rôl sy’n ei thangyflogi oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith. Roedd Lowri’n benderfynol o gael ei gyrfa yn ôl ar y trac ac felly gwnaeth gais i Academi’r Graddedigion yn Awst y llynedd er mwyn cymryd cam cadarnhaol tuag at gyrraedd ei nod. Mis ar ôl cychwyn Academi’r Graddedigion mae Lowri wedi cael cynnig Lleoliad Gwaith 10 wythnos a rhagolygon gwaith da ar gyfer y dyfodol. Mae Lowri’n esbonio;
James Malatynski
Roedd James Malatynski newydd adael y Brifysgol ar ôl astudio ar gyfer gradd mewn Cadwraeth Amgylcheddol pan wnaeth gais i Academi’r Graddedigion. Cafodd James gyfle i gwblhau pedair wythnos o brofiad gwaith gyda’r RSPB drwy gyfrwng y cwrs ac mae wedi rhoi mantais glir iddo wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol! Cynhaliom gyfweliad â James er mwyn cael gwybod mwy…
Briony Phillips
Cyflwynodd Briony Phillips, a raddiodd yn y Cyfryngau’n ddiweddar, gais i Academi’r Graddedigion i ennill profiad ymarferol yn y diwydiant cyfryngau. Trefnwyd ei bod yn cael pedair wythnos o brofiad gwaith gyda Candy Jar; cwmni cyhoeddi a chynhyrchu fideos ym Mae Caerdydd. Dyma Briony yn sôn wrthym am ei phrofiad;
Lorraine Hancock
Mae myfyriwr tecstilau graddedig wedi defnyddio ei phrofiad gydag Academi’r Graddedigion GO Wales i helpu i lansio ei busnes llwyddiannus ei hun.
Erin Rickard
Roedd Erin Rickard, a raddiodd yn y Celfyddydau Cain, yn gweithio fel derbynnydd mewn gwesty pan wnaeth cais i Academi Raddedigion GO Wales. Ar ôl gorffen profiad gwaith mewn sefydliad dan arweiniad artistiaid, sef Locws International yn Abertawe, mae Erin bellach wedi ei chyflogi fel Cydlynydd Prosiect a Swyddog Arddangosfeydd. Yn y cyfweliad byr hwn, mae Erin yn esbonio sut mae’r Academi Raddedigion wedi rhoi cyfle gwych iddi ddatblygu ei gyrfa yn y diwydiant celf:
Pete Rollins
Mae Pete Rollins, myfyriwr graddedig mewn Peirianneg Sifil erbyn hyn gam yn agosach at ei yrfa ddelfrydol ar ôl cael cyfle i weithio i gwmni cyfrifyddiaeth blaenllaw fel rhan o Academi’r Graddedigion GO Wales.
Diabetes UK Cymru
Drwy gymryd rhan yn Academi’r Graddedigion GO Wales byddwch nid yn unig yn gwella eich siawns o gael swydd, mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd, adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau defnyddiol a datblygu llawer o ffrindiau newydd.
Grŵp o bobl yn gwenu
Cymerodd 16 o raddedigion o bob cwr o Gymru ran yn Academi Graddedigion GO Wales ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar er mwyn hybu eu rhagolygon o ran gyrfaoedd.
Academi Graddedigion 2009
Roedd Stephanie Merriman yn gweithio mewn swydd dros dro pan glywodd am Academi i Raddedigion GO Wales; graddiodd ym mis Gorffennaf 2008 gyda gradd yn y Gyfraith ac ar ôl blwyddyn o wneud gwaith dros dro, roedd yn teimlo bod yr academi yn swnio fel cyfle gwych i’w helpu i sicrhau swydd raddedig.