GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Yr hyn sydd angen i chi wybod

Academi Graddedigion Amser Llawn

Mae’r Academi amser llawn yn para am 6 wythnos ac yn cynnwys cwrs hyfforddi preswyl pythefnos o hyd a chyfnod o brofiad gwaith. Daw’r cwrs i ben gyda chynhadledd breswyl ddeuddydd ar ddiwedd Wythnos 6.

Oherwydd y ffordd y cawn ein hariannu mae yna rai cyfyngiadau o ran pwy sy’n cael cymryd rhan yn Academi Graddedigion GO Wales; cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o unrhyw oed sy’n meddu ar unrhyw gymhwyster gradd.

Ble cynhelir y cwrs?

Cynhelir y cwrs hyfforddi a’r gynhadledd derfynol ar gyfer pob Academi ar gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Tref farchnad fechan wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Ceredigion yw Llanbedr Pont Steffan. Dangosodd adborth gan gyfranogwyr blaenorol fod yn well ganddynt gynnal y cwrs mewn lleoliad tawel gyda llai o amharu, sy’n galluogi iddynt ganolbwyntio’n llawn ar adeiladu tîm a’r broses ddysgu.

Beth yw’r gost?

Mae’n rhad ac am ddim. Rydym ni’n talu am yr hyfforddiant, eich llety, eich prydau bwyd a’r cymorth ychwanegol a ddarperir gan dîm yr Academi Graddedigion. Rydym hefyd yn talu ffi cofrestru’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Yn ogystal, gallwn dalu costau teithio hyd at uchafswm o £100, i’ch galluogi chi i deithio i Lanbedr Pont Steffan ac yn ôl.

Yn ystod y cyfnod profiad gwaith, os yw’r lleoliad gwaith wedi’i drefnu gan GO Wales ac nad ydych yn derbyn incwm o ffynonellau eraill (gan gynnwys cyflog neu fudd-daliadau), bydd yr Academi Graddedigion hefyd yn talu lwfans hyfforddi gwerth £20 y dydd (£100 am wythnos waith 5 diwrnod).

Os rydych yn hawlio budd-daliadau, dylech gael cyngor gan eich Cynghorydd Canolfan Byd Gwaith am yr effaith y bydd mynychu’r Academi Graddedigion yn ei chael ar eich budd-daliadau. Mae’n debygol y bydd eich cais yn cael ei ohirio neu’n cael ei ddileu yn gyfan gwbl ond rhaid cadarnhau hynny gyda’r Ganolfan Byd Gwaith.