Methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn yn y Cwestiynau Cyffredin isod? Gofynnwch gwestiwn a byddwn yn eich ateb cyn gynted ag y bo modd.
Edrych ar gwestiynau rydych wedi'u gofyn yn flaenorol a gwirio eu statws. Sylwch fod angen i chi fod yn gofrestredig gyda ni i edrych ar 'Fy Nghwestiynau' oherwydd bydd rhaid i chi fewngofnodi i'w gweld.
Cwestiynau Cyffredin
- Rwyf yn cael trafferth wrth fewngofnodi, sut gallaf gael help?
- - Os nad yw eich cyfrinair yn gweithio defnyddiwch y cyfrinair wedi'i anghofio ddolen ar y dudalen llofnodi i mewn.
- Os ydych wedi anghofio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch i gofrestru gyda ni neu os oes unrhyw ymholiadau eraill gennych, defnyddiwch y ddesg cymorth i ofynnwch cwestiwn a byddwn yn cysylltu â chi i ddatrys eich ymholiad cyn gynted ag y bo modd.
- Rwyf wedi gweld lleoliad mae gennyf ddiddordeb ynddo, sut gallaf wneud cais amdano?
- - Chwiliwch am y lleoliad mae gennych ddiddordeb ynddo.
- Cliciwch ar y lleoliad mae gennych ddiddordeb ynddo er mwyn gweld yr hysbyseb.
- Rholiwch i lawr i waelod hysbyseb y lleoliad a chliciwch ar y botwm Gwneud Cais.
- Bydd hyn yn mynd â chi trwy’r broses gofrestru i’ch caniatáu i wneud cais am y lleoliad hwn.
- Ni allaf lanlwytho fy CV
- - Mewngofnodwch i’ch cyfrif GO Wales a dylai hyn fynd â chi’n uniongyrchol at eich tudalen ‘Fy GO Wales i’.
- O dan yr adran 'Fy Mhroffil i' cewch chi glicio ar 'Lanlwytho CV newydd’ a fydd yn mynd â chi at dudalen sy’n caniatáu i chi bori am CV a’i lanlwytho.
- Ar ôl i chi bori am y CV a cheisio ei lanlwytho, os ydych yn cael problemau o hyd, cysylltwch â ni drwy’r ddesg cymorth trwy ofyn cwestiwn, a darparu manylion i ni o’r math o fformat mae eich CV ynddo, h.y. microsoft word, pdf, microsoft works ayyb.
- Sut gallaf fewngofnodi i weld statws cwestiwn rwyf wedi’i ofyn i’r ddesg cymorth?
- - Cliciwch ar 'Fy Nghwestiynau' a chewch eich annog i fewngofnodi os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
- Bydd hyn yn dangos rhestr o’r cwestiynau rydych eisoes wedi gofyn i’r ddesg cymorth.
- Cliciwch ar un ohonynt i weld y manylion.