Lleoliadau Gwaith GO Wales yw’r cynllun profiad gwaith blaenllaw ar gyfer Cymru. Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a graddedigion gael profiad gwaith am dâl sy’n seiliedig ar brosiectau yng Nghymru. Profwyd bod ein lleoliadau’n eich gwneud yn fwy cyflogadwy.
Yn dilyn adborth cadarnhaol gan ein cyfranogion, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid pellach a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwasanaethau am dair blynedd arall. Mae un newid yn ein cynnig – rydym bellach yn gweithio gyda graddedigion a myfyrwyr yn y ddwy flynedd olaf o’u cyrsiau. Mae llawer o hyd i’w gynnig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn eich Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y Brifysgol ac mae croeso i chi gymryd rhan yn GO Wales ar ôl i chi gwblhau eich blwyddyn gyntaf.
Er mwyn helpu gymaint o bobl â phosibl mae GO Wales yn cyfyngu ar y nifer o leoliadau gall unigolyn eu cael i ddau. Gallwch wneud cais am gymaint o leoliadau a ddymunwch, ond ar ôl i chi gael dau leoliad, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am fwy. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn.
Oherwydd y ffordd rydyn ni’n cael ein hariannu mae rhai cyfyngiadau o ran pwy sy’n gallu cymryd rhan yn y gwasanaethau a gynigir gan GO Wales. Chwiliwch yma am fwy o wybodaeth.
Darganfyddwch fwy am GO Wales yn Ewrop, rhaglen o leoliadau gwaith yn yr UE. Ymgeisiwch Nawr!
Dyma’r ffeithiau sylfaenol ynglŷn â’n cynllun lleoli:
Porwch drwy rai o’r astudiaethau achos sydd isod er mwyn gweld sut mae myfyrwyr a graddedigion wedi elwa ar Leoliadau Gwaith GO Wales: