Jade Hughes
Sefydliad: Brecon Cathedral
Yn ystod ei lleoliad gwaith yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu bu Jade Hughes yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Marchnata ar brosiectau a gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu refeniw i’r Eglwys Gadeiriol. Cynhyrchodd Jade gwerth £26,000 o incwm ar gyfer Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn ystod ei phrofiad. Mae'n esbonio:
"Prif nod fy lleoliad oedd helpu codi'r arian sy'n weddill ar gyfer yr Apêl Côr (£1 miliwn), gan drefnu nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo a chodi arian o fis Ebrill tan fis Hydref 2011. Bues i’n cynorthwyo gyda’r digwyddiadau canlynol: Ail-lansiad yr Apêl Côr a oedd yn cynnwys cyngerdd cerddorol yn Abertawe ac areithiau gan Esgob Abertawe ac Aberhonddu, Ffair Blanhigion i godi arian, a rhedeg siop lloeren yn ystod Gŵyl Jazz Aberhonddu."
"Hefyd bues i’n chwarae rhan ganolog mewn gwneud ceisiadau i Ymddiriedolaethau er mwyn sicrhau rhagor o gyllid ariannol; llwyddais i gael £26,000. Roeddwn yn gyfrifol ar fy mhen fy hun am ddiweddaru gwefan yr Eglwys Gadeiriol gyda deunydd hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau i ddod a rhoi adroddiadau am y digwyddiadau llwyddiannus."
"Roedd fy holl brofiad o weithio yn yr Eglwys Gadeiriol yn gyfle dysgu gwych mewn amgylchedd cyfeillgar a oedd yn ysbrydoli. Roedd bod yn rhan o dîm cryf, cadarnhaol yn fwynhad mawr. Bu llawer o uchafbwyntiau yn ystod fy lleoliad; roedd yn braf gweld gwaith caled yn talu ar ei ganfed; llwyddiannau mewn ceisiadau am grantiau; a chynnydd mewn refeniw trwy ddefnyddio strategaethau marchnata arloesol."
"O ganlyniad i’m lleoliad cefais lawer o brofiad marchnata a dysgais sgiliau hyrwyddo, a gallaf ddefnyddio’r rhain wrth weithio yn y dyfodol. Mae Eglwys Gadeiriol Aberhonddu wedi ennill £26,000 hyd yn hyn mewn cyllid grant (gyda’r disgwyl y daw cyllid pellach gan ymddiriedolaethau y gwneuthum geisiadau atynt yn ystod fy lleoliad). Roedd yn gam sylweddol tuag at yr Apêl Côr sy’n anelu at godi £1 miliwn."
"Mae lleoliad GO Wales yn ffordd berffaith i raddedigion newydd bontio rhwng bywyd Prifysgol a byd gwaith go iawn. Mae'n rhoi profiad holl bwysig i raddedigion a dyma beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano yn ogystal â gradd."
"Byddwn yn argymell cynllun GO Wales i bob person graddedig - gall eich ysbrydoli chi ac agor eich llygaid i'r holl bosibiliadau gyrfaol sydd ar gael! Mae’n arbennig o ddefnyddiol os, fel fi, roeddech chi wedi gadael y Brifysgol heb unrhyw syniad am yr hyn yr hoffech ei wneud."