Guto Dafydd
Sefydliad: Golwg Newydd
Owain Schiavone yw Prif Weithredwr Golwg Newydd sy’n gyfrifol am wasanaeth treigl y newyddion yn Gymraeg, Golwg360.com, a recriwtiodd Guto Dafydd, sy’n siarad Cymraeg ac yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, fel Cydlynydd ar gyfer adran Newyddion Chwaraeon y wefan. Dyma Owain yn esbonio sut aeth y prosiect;
"Amcan y lleoliad oedd ailddatblygu’r adran chwaraeon ar y safle ar gyfer y tymor i ddod. Roeddem yn awyddus i newid y ffordd rydym yn delio â chwaraeon ar y safle i gynnig rhywbeth gwahanol i’n cystadleuwyr, tra hefyd yn cynnig y gwasanaeth proffesiynol a chyson sydd i’w ddisgwyl gan ddarparwr newyddion cenedlaethol."
"Roedd y prosiect yn gymharol lwyddiannus. Llwyddodd Guto i gwmpasu’r newyddion chwaraeon dros fisoedd yr haf a datblygu ein rhestr cysylltiadau hefyd. Llwyddodd i recriwtio rhai newyddiadurwyr clwb gwirfoddol ac rydym yn parhau i weithio ar system gynaliadwy ar gyfer delio â’u herthyglau, felly roedd yn dasg anodd."
"Byddem yn bendant yn cymeradwyo GO Wales i fusnesau eraill. Mae’n gynllun da iawn os oes gennych brosiect penodol rydych am ei ddatblygu dros gyfnod byr. Mae hefyd yn ffordd dda i ddysgu am weithlu newydd posibl - bellach rydym wedi cynnig gwaith parhaol i ddau a gymerodd ran drwy GO Wales."
"Mae tîm GO Wales wedi bod yn hynod gynorthwyol bob tro ac wedi cefnogi ein syniadau. Mae’r cynllun yn un gwerthfawr ar gyfer busnesau a’r rhai sy’n cymryd rhan hefyd."