GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Astudiaethau Achos

Katy Simister
Sefydliad: Printing.com, Abertawe
Cysylltodd y cwmni brandio a dylunio argraffu Colourbox Creative o Abertawe â ni gyda gorchwyl prosiect; roedd angen unigolyn graddedig arnynt i dderbyn cyfrifoldeb llawn am ddatblygu eu gwasanaeth mewnol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid; rhoi gweithdrefnau ar waith a fyddai’n helpu’r busnes i weithredu’n esmwyth a gwella’r elfen gwasanaeth i gwsmeriaid.
Golwg 360
Sefydliad: Golwg Newydd, Ceredigion
Owain Schiavone yw Prif Weithredwr Golwg Newydd sy’n gyfrifol am wasanaeth treigl y newyddion yn Gymraeg, Golwg360.com, a recriwtiodd Guto Dafydd, sy’n siarad Cymraeg ac yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, fel Cydlynydd ar gyfer adran Newyddion Chwaraeon y wefan. Dyma Owain yn esbonio sut aeth y prosiect;
Jade Hughes
Sefydliad: Brecon Cathedral, Powys
Yn ystod ei lleoliad gwaith yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu bu Jade Hughes yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Marchnata ar brosiectau a gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu refeniw i’r Eglwys Gadeiriol. Cynhyrchodd Jade gwerth £26,000 o incwm ar gyfer Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn ystod ei phrofiad. Mae'n esbonio:
MijMoj
Sefydliad: MijMoj Contemporary Furniture Design, Conwy
Ar ôl iddo raddio, recriwtiwyd Peter Jervis gan gwmni dylunio dodrefn cyfoes MijMoj yng Ngogledd Cymru drwy gynllun Lleoliad Gwaith GO Wales, i’w cynorthwyo gyda phrosiect dylunio cynnyrch; i weithio ar ystod newydd o gynhyrchion o’r cysyniad cychwynnol hyd eu cynhyrchu. Esboniodd y dylunydd Gafyn Owen;
Beki Lee
Sefydliad: Cynon Taf Community Housing Group, Rhondda, Cynon, Taf
Graddiodd Beki Lee gyda gradd 2:1 mewn Cyfathrebu yn y Cyfryngau o’r Atriwm, Prifysgol Morgannwg. Roedd yn awyddus i ddechrau gweithio a chafodd le ar Leoliad Gwaith GO Wales gyda Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf lle cafodd brofiad marchnata rhyfeddol. Dyma stori Beki Lee;
Brookes Dairy
Sefydliad: Brookes Wye Valley Dairy Co, Sir Fynwy
Yn ddiweddar, gorffennodd Luke Fox gyfnod lleoliad gwaith cyffrous gyda Llaethdy Brookes fel Cynorthwyydd Brand a Marchnata. Mae Llaethdy Brookes wedi ei leoli yn Sir Fynwy ac yn cynhyrchu hufen iâ o safon uchel ar gyfer Waitrose, gwesty’r Marriott, a gwesty‘r Celtic Manor. Dyma stori Luke am ei brofiad:
Super Rod
Sefydliad: Super Rod Ltd, Torfaen
Cymerodd Craig ran mewn lleoliad gwaith GO Wales fel cynorthwyydd dylunio graffig/cynnyrch yn Super Rod, lle cynigiwyd swydd barhaol iddo erbyn hyn. Dyma stori Craig.
Jonathan Walker
Sefydliad: ISCA UK Ltd, Caerffili
Mae Jonathan Walker, a astudiodd radd a doethuriaeth mewn Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael lleoliad gwaith gwych yn ddiweddar yn ISCA UK trwy Academi’r Graddedigion GO Wales. Mae ISCA UK yn gweithgynhyrchu cemegau a pholymerau arbenigol ar gyfer gofal personol.
Lucy Read
Sefydliad: Locws International Limited , Abertawe
Cymerodd Lucy Read, a raddiodd yn y Celfyddydau Cain o Brifysgol Fetropolitan Abertawe, ran mewn lleoliad gwaith 10 wythnos gyda Locws International; sef sefydliad dan arweiniad artistiaid sy’n gweithio ar brosiectau’r celfyddydau gweledol ar gyfer mannau cyhoeddus a hygyrch ar draws dinas Abertawe.
Kamen Ho
Sefydliad: HSJ Accountants, Casnewydd
Mae HSJ Accountants yn gwmni cyfrifyddiaeth sy’n rhoi cyngor ar fusnes, treth a materion ariannol, wedi’i leoli yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Yn ddiweddar gwnaethant gynnig lleoliad 12 wythnos i Gynorthwy-ydd Marchnata drwy gynllun GO Wales, a Kamen Ho oedd y deiliad llwyddiannus.
IT
Sefydliad: Anchor Computer Systems Ltd, Gwynedd
Cymerodd Adam Telford Williams, a raddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifiadureg, ran yn ei ail leoliad gwaith cyflogedig a drefnwyd gan GO Wales. Ymunodd Adam ag Anchor Computer Systems Ltd ym Mharc Menai, Bangor am ddeg wythnos i weithio fel Peiriannydd Cefnogi Meddalwedd.
Lowri Elen Evans
Sefydliad: Anglesey Sea Zoo, Ynys Môn
Mae Sw Môr Môn yn denu llawer o dwristiaid i Ynys Môn. Yn ddiweddar, fe gynigion nhw ddeg wythnos o waith cyflogedig i fyfyriwr graddedig yn rhan o dîm biolegol y sw. Lowri Elen Evans, sy’n astudio Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Bangor, a enwebwyd i wneud y gwaith.
Huw Williams
Sefydliad: Eurobond Laminates, Caerdydd
Bu Huw Williams, myfyriwr blwyddyn olaf mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, ar leoliad gwaith am 12 wythnos yn ystod yr haf gyda Eurobond Laminates. Mae Huw yn esbonio sut y gwnaeth yr amser a dreuliodd gyda’r cwmni ei roi ar ben y ffordd ar gyfer gyrfa mewn peirianneg.
Stacey Morrissey
Sefydliad: RAP International, Abertawe
Yn ddiweddar cymerodd Stacey Morrissey, sy’n fyfyriwr Celf a Dylunio graddedig o Brifysgol Morgannwg, ran mewn lleoliad dylunio graffeg i ailddylunio cannoedd o eiconau ar gyfer pecyn meddalwedd a ddatblygwyd gan RAP International.
Chris West
Sefydliad: Heritage Attractions, Gwynedd
Am ddegawdau byddai gorsaf-feistri ar gopa’r Wyddfa yn paratoi’r teithwyr at eu disgyniad gan chwythu ei chwiban. Roedd hynny cyn i feistri Rheilffordd yr Wyddfa benderfynu bod angen dull newydd, gwell, gan gyflogi dau fyfyriwr arloesol o Brifysgol Bangor i osod system sain a oedd yn torri tir newydd yng nghanolfan ymwelwyr newydd y copa, Hafod Eryri.
'Bangoriad' cylchgrawn
Sefydliad: View Creative, Conwy
Mae View Creative yn asiantaeth dylunio graffeg a brandio sy’n cynnig gwasanaeth llawn ac a leolir yn nhref lan môr hardd Llandrillo yn Rhos, Gogledd Cymru. Ymunodd Jason Roberts â’r busnes ar leoliad deg wythnos i weithio ar ystod o brosiectau dylunio i gleientiaid.
Eclipse Medical Gwefan
Sefydliad: Eclipse Medical Innovations Ltd., Abertawe
Roedd cwmni Eclipse Medical Innovations yn chwilio am unigolyn â gradd i ddatblygu eu swyddogaeth e-farchnata. Bu Anthony Beck yn gweithio ar ddatblygu siop ar-lein y cwmni a gwneud y mwyaf o’u chwilotwr.
Haemair cynnyrch
Sefydliad: Haemair Ltd, Abertawe
Haemair leoli yn Abertawe wedi cymryd ar israddedig Jennifer Brokenshire i gwblhau prosiect ymchwil i edrych ar hyfywdra masnachol eu cynnyrch sy'n anelu at wella ansawdd bywyd i bobl sy'n dioddef clefyd yr ysgyfaint.
grŵp o dringwyr
Sefydliad: Boulders Ltd, Caerdydd
Drwy leoliad gwaith gyda GO Wales llwyddodd Rebecca Hawkins ennill profiad ymarferol gwerthfawr ym myd marchnata; cymerodd ran mewn lleoliad 12 wythnos gyda chanolfan ddringo Boulders yng Nghaerdydd lle'r oedd chwarae rhan bwysig yn symud y cwmni ymlaen.
Jo Dulat
Sefydliad: National Zoological Society of Wales, Conwy
Ar hyn o bryd, mae Jo Dulat, myfyrwraig sy’n astudio’r Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ar leoliad gwaith gyda Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn fel Cynorthwyydd Addysg.
Outperform UK Ltd
Sefydliad: Outperform, Sir Ddinbych
Mae David Ashton yn fyfyriwr Busnes a Marchnata israddedig sy’n astudio ym Mhrifysgol Sheffield Hallam ar hyn o bryd.