GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Blas ar Waith GO Wales

Trefnir Blas ar Waith GO Wales yn unol â’ch anghenion. Cyfnodau o brofiad gwaith pwrpasol wedi’u cynllunio i’ch helpu chi i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’ch gyrfa. Mae Blas ar Waith yn fyr, hyblyg ac yn galluogi myfyrwyr a graddedigion i ennill profiad mewn gyrfa, diwydiant neu sector busnes penodol.

Newyddion!

Yn dilyn adborth cadarnhaol gan ein cyfranogion, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid pellach a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwasanaethau am dair blynedd arall. Mae un newid yn ein cynnig – rydym bellach yn gweithio gyda graddedigion a myfyrwyr yn y ddwy flynedd olaf o’u cyrsiau. Mae llawer o hyd i’w gynnig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn eich Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y Brifysgol ac mae croeso i chi gymryd rhan yn GO Wales ar ôl i chi gwblhau eich blwyddyn gyntaf.

Oherwydd y ffordd rydyn ni’n cael ein hariannu mae rhai cyfyngiadau o ran pwy sy’n gallu cymryd rhan yn y gwasanaethau a gynigir gan GO Wales. Chwiliwch yma am fwy o wybodaeth.

Beth yw Blas ar Waith?

Mae Blas ar Waith:

  • Fel rheol, mae rhwng 3 a 10 diwrnod o hyd.
  • Yn ddi-dâl. Rydych chi’n arsylwi ac efallai’n cymryd rhan mewn rhai tasgau detholedig, ond nid ydych chi’n gweithio i’r cwmni tra’n cymryd rhan mewn Blas ar Waith.
  • Mae’r gweddill i fyny i chi... . Edrychwch ar ein hastudiaethau achos i weld pa fath o Flas ar Waith rydym ni wedi’u trefnu.

Astudiaethau Achos

Porwch drwy rai o’r astudiaethau achos isod i weld sut mae myfyrwyr a graddedigion wedi elwa o sesiynau Blas ar Waith GO Wales: