GO Wales

Astudiaethau Achos

Neil Simons
Sefydliad: University of Glamorgan
Mae Neil Simons, graddedig mewn Cynhyrchu Cyfryngau yn Abertawe, wedi cymryd rhan mewn sawl Blas ar Waith gyda GO Wales er mwyn ennill profiad yn y diwydiant. Ers hynny mae wedi meithrin nifer o gysylltiadau yn y cyfryngau, a gweithio ar gynyrchiadau ar gyfer sianel deledu Rygbi’r Gweilch ac ennill profiad un o raglenni teledu S4C.
Christian Kelsey
Sefydliad: Menter Iaith Abertawe
Trefnodd GO Wales brofiad gwaith ar gyfer Christian Kelsey, myfyriwr israddedig mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, gydag asiantaeth datblygu’r iaith, sef Menter Iaith Abertawe. Roedd yno am bythefnos yn ystod gwyliau’r haf.
Bethan Probert
Sefydliad: Gelicity UK Ltd
“Roedd y Blas ar Waith a gefais drwy GO Wales yn brofiad gwych ac yn gymaint mwy nag roeddwn yn ei ddisgwyl! Cefais gynnig Blas ar Waith yn Gelicity UK am bythefnos yn ystod Gwyliau’r Pasg fel marchnatwr, sy’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol ynddo. "
Christina
Sefydliad: ITV
Trefnodd GO Wales gyfle i Christina Deias wneud Blas ar Waith gydag ITV Cymru. Cymerodd Christina ran mewn nifer o dasgau amrywiol yn ystod y pythefnos dreuliodd hi yn y stiwdios. Dyma ei hanes hi;
Natalie Stewart
Sefydliad: Newport City Homes
Mae Natalie Stewart, myfyrwraig ar fin dechrau ar ei blwyddyn olaf BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, wedi treulio’r haf ar brofiad gwaith i hybu ei sgiliau cyflogadwyedd gan roi ychydig o flaen iddi dros fyfyrwyr eraill. Roedd Natalie am ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygodd ar ei chwrs i ennill profiad ymarferol mewn dylunio graffig. Dyma stori Natalie am ei phrofiad Blas ar Waith:
Shine Creative
Sefydliad: Shine Creative Arts ltd
Busnes lleol yng Nghaerdydd yw Shine creative arts, sy’n cynnig dosbarthiadau drama, dawns a cherddoriaeth i blant o bob oed a gallu ar hyd a lled Caerdydd a’r fro. Dros wythnos ym mis Awst 2011 cynhaliodd shine creative arts eu Hysgol Theatr gyntaf.
Emma Jayne-Halford
Sefydliad: Longview Properties
Roedd Emma-Jayne Halford yn chwilio am fath penodol iawn o brofiad gwaith pan aeth at GO Wales. Fel myfyriwr israddedig mewn Hanes Hynafol, roedd Emma eisiau rhywbeth a oedd yn gysylltiedig â hanes a fyddai’n rhoi cyfle iddi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’i gyrfa yn y dyfodol.
Chris Wilding
Sefydliad: Business Sense
Mae Chris Wilding sy’n astudio ar gyfer Gradd mewn Economeg Busnes ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd wedi gorffen Blas ar Waith yn Business Sense yn Abertawe llynedd. Yn ystod y profiad cafodd Chris fewnwelediad i weithredoedd cwmni cyfrifyddiaeth bach o ddydd i ddydd;
Laura Richards
Sefydliad: Ffynone House School
Gyda dau syniad hollol wahanol ynglŷn â pha lwybr gyrfaol roedd am ei ddilyn roedd Laura Richards, myfyriwr israddedig yn y dyniaethau, yn gobeithio y byddai Blas ar Waith gydag Ysgol Tŷ Ffynone yn Abertawe yn help iddi wneud penderfyniad ynglŷn â’i dyfodol.
Susanna Bowen
Sefydliad: Golwg Newydd
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan wedi cyfrannu at gynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion i hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol eleni tra ar leoliad Blas ar Waith GO Wales gyda Golwg 360.
Sarah Drury
Sefydliad: The National Trust
Roedd Sarah Drury am gael profiad mewn amgylchedd sy'n ymwneud ag adeiladau hanesyddol, ac roedd yn awyddus i ddysgu mwy am weithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn benodol.