GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Nicola Porter

Nicola Porter

Profiad Ymgynghoriaeth Fusnes

Sefydliad: CIOTEK Limited

Roedd Nicola Porter yn chwilio am brofiad gwaith mewn ymgynghoriaeth waith pan aeth at GO Wales. Llwyddodd i gael lle Blas ar Waith gyda Ciotek; ymgynghoriaeth busnes yn Abertawe. Treuliodd un diwrnod yr wythnos gyda’r cwmni dros gyfnod o ychydig wythnosau. Cynhaliom gyfweliad â Nicola er mwyn canfod mwy am ei phrofiad;

Pa weithgareddau gwnaethoch eu cyflawni tra ar eich Blas ar Waith gyda GO Wales?

Yn ystod fy Mlas ar Waith bûm  yn cysgodi cyfarfodydd busnes, cynnal ymchwiliad i ehangu’r cwmni dramor, dadansoddi a chyflwyno canlyniadau ymchwil marchnadoedd gan ddefnyddio Excel, a gweithio ar adroddiadau cleientiaid. 

Oedd hwn yn brofiad cadarnhaol i chi?

Cefais y Blas ar Waith yn brofiad cadarnhaol iawn. Llwyddais i wneud gweithgareddau na fyddwn wedi cael y cyfle i’w cyflawni oni bai am hyn ac roedd yn gymorth i mi ddeall rôl gwaith ymgynghorydd busnes, rhywbeth na fyddwn wedi ei ddeall petawn heb gael y Blas ar Waith.  

Ydy hwn wedi eich helpu i wneud penderfyniad ynglŷn â’ch gyrfa yn y dyfodol?

Mae profiad Blas ar Waith wedi cadarnhau bod Ymgynghoriaeth Fusnes yn sector buaswn yn edrych arno wrth i’m gyrfa ddatblygu; fodd bynnag, rwy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar  ennill fy nghymwysterau cyfrifeg, ACCA.

Pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr gael profiad gwaith di-dâl ochr yn ochr â’u hastudiaethau?

Credaf ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr gael profiad gwaith di-dâl gan ei fod yn rhoi mewnwelediad i’r gwaith sy’n cael ei gynnal gan sector y proffesiwn o’ch dewis.  Mae’n dangos i gyflogwyr bod gennych ddiddordeb penodol yn y diwydiant hwnnw a’ch bod yn barod i ymgymryd â gwaith ychwanegol er mwyn ennill sgiliau ychwanegol a chael mynediad i’r proffesiwn.

Fyddech chi’n dweud bod  GO Wales o fudd i fyfyrwyr a graddedigion sy’n byw yng Nghymru? 

Yn bendant, byddwn yn cytuno bod GO Wales o fudd i fyfyrwyr a graddedigion yng Nghymru a bod ganddynt gysylltiadau â chyflogwyr na fyddai’n bosibl i fyfyrwyr eu trefnu eu hunain. Mae ganddo’r gallu i ddatblygu sgiliau myfyrwyr a graddedigion, yn adeiladu hyder ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwneud cais am swyddi ar ôl graddio.

Fyddech chi’n argymell rhaglen GO Wales i fyfyrwyr a graddedigion eraill rydych yn eu hadnabod? 

Byddwn gan fy mod yn credu y byddai o fudd i’r mwyafrif o fyfyrwyr a graddedigion sydd am ddefnyddio eu hamser a gwella eu sgiliau mewn sector gwaith penodol.

Unrhyw sylwadau am y sefydliad y buoch chi ynddo ar gyfer eich profiad gwaith? 

Roedd perchnogion y cwmni lle cefais y profiad gwaith , sef CIOTEK, yn groesawgar a chynorthwyol dros ben. Roeddent yn caniatáu i mi gael profiad gwaith ymarferol fel mynychu cyfarfodydd, darllen a datblygu adroddiadau’r cwmni, a’m cynorthwyo gyda’r gwaith o archwilio marchnad dramor. Dysgais fwy o wneud gwaith ymarferol ac rwy’n teimlo bod fy hyder wedi tyfu ers i mi dreulio ychydig o amser yno.

Share |