Emma-Jayne Halford
Sefydliad: Longview Properties
“O ganlyniad i’r blas ar waith, mae Fferm Treberfedd nawr yn fy nhalu i ysgrifennu testun ar gyfer y llyfryn, maen nhw wedi ennill adnodd defnyddiol ar gyfer eu hymwelwyr, ac wedi rhoi prosiect unigryw i mi gyda rhywbeth y galla’i ddangos i gyflogwyr yn y dyfodol."
Roedd Emma-Jayne Halford yn chwilio am fath penodol iawn o brofiad gwaith pan aeth at GO Wales. Fel myfyriwr israddedig mewn Hanes Hynafol, roedd Emma eisiau rhywbeth a oedd yn gysylltiedig â hanes a fyddai’n rhoi cyfle iddi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’i gyrfa yn y dyfodol.
Cofrestrodd Emma ei chais am brofiad ar wefan GO Wales, a chafodd gynnig Blas ar Waith yn canolbwyntio ar ymchwil hanesyddol ym Mythynnod Gwyliau Fferm Treberfedd yn Llanbedr Pont Steffan. Nod y blas ar waith oedd creu llyfryn ar hanes Fferm Treberfedd ar gyfer ei hymwelwyr gwyliau ac ar gyfer bythynnod gwyliau ar y safle. Esboniodd Emma;
“Gan fy mod i ar hyn o bryd yn cyflawni gradd mewn Hanes Hynafol, sydd â dewis cyfyngedig o swyddi sy’n gysylltiedig yn benodol ag ef, cymerais ran yn y profiad gwaith hwn i archwilio swyddi gwahanol o fewn ymchwil. Yn ystod y blas ar waith, cefais gyfle i weithio oddi ar y safle yn cyflawni ymchwil yn Archifdai Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Choflein, pob un yn Aberystwyth, a chymharu’r dystiolaeth adref. Fodd bynnag, er mwyn cadw cofnod o fy nghynnydd, roeddwn yn dychwelyd i Fferm Treberfedd ac yn dangos fy nghynnydd ac yn archwilio llwybrau pellach.”
“Mae’r blas ar waith wedi rhoi nifer o sgiliau newydd i mi; ymchwilio a chyrchu dogfennau ynglŷn â hanes lle a’i adeiladau; y bobl oedd yn arfer byw yno, a hefyd sicrhau ei fod yn ddiddorol i’r cyflogwr a’r cyhoedd. Roedd hyn yn rhoi cyfle i mi ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwahanol, fel cyfrifiadau a hen ddogfennau.”
“Er yr oedd y profiad hwn yn ddiddorol iawn ac wedi rhoi amrywiaeth o sgiliau archifol ac ymchwil i mi a allai helpu gydag astudiaethau achyddiaeth pellach, mae’n gofyn am unigolyn sy’n amyneddgar ac yn frwdfrydig ynglŷn â’r yrfa hon, gan yn aml mae bylchau’n ymddangos yn yr ymchwil ac mae nifer o gwestiynau’n cael eu gadael heb ateb. Mae’r profiad hwn felly wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan fy mod wedi mwynhau’r prosiect a dysgu sgiliau newydd, ond hefyd yn credu na fyddai hon yn swydd y byddwn i’n mynd amdani.”
“O ganlyniad i’r blas ar waith, mae Fferm Treberfedd nawr yn fy nhalu i ysgrifennu testun ar gyfer y llyfryn, maen nhw wedi ennill adnodd defnyddiol ar gyfer eu hymwelwyr, ac wedi rhoi prosiect unigryw i mi gyda rhywbeth y galla’i ddangos i gyflogwyr yn y dyfodol. Nes ymlaen eleni, byddaf yn cyflawni profiad addysgu/arsylwi mewn ysgol uwchradd mewn Hanes a Gwareiddiad Clasurol, sy’n fwy cysylltiedig â fy astudiaeth i. Ar ôl gwneud hyn, gobeithiaf y byddaf yn gwybod pa lwybr neu yrfa yr hoffwn ei ddilyn."