GO Wales

Hygyrchedd

Mae GO Wales wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ag anableddau corfforol neu nam ar y synhwyrau neu unigolion sy’n darllen Saesneg fel ail iaith neu iaith arall. Mae GO Wales yn ymdrechu i wella safonau hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os ydych yn profi problemau i gael mynediad i rannau o wefan GO Wales, gofynnwch gwestiwn trwy ddesg gymorth ein gwefan.

Cydymffurfio â safonau

Mae GO Wales yn anelu i gydymffurfio â blaenoriaethau 1 a 2 canllawiau Menter Hygyrchedd y Rhyngrwyd (WAI) Consortiwm y Y We Fyd-Eang (W3C). Rydym yn ymdrechu i ddilysu pob tudalen fel XHTML 1.0 Trosiannol, wrth ddefnyddio arwyddnodau semantig strwythurol, a CSS 2.1 ar gyfer cynllun y dudalen. Fodd bynnag, ni all Go Wales warantu bod cyfraniadau ac offer trydydd parti ar y wefan hon yn cydymffurfio â safonau.

Allweddi Mynediad

At ddiben hygyrchedd, mae GO Wales yn darparu peth cynnwys a ellir cael mynediad ato trwy ymarferoldeb allweddell.

Mae’r mwyafrif o borwyr cyfoes yn cefnogi neidio at ddolenni allweddol trwy deipio allweddi a ddiffinnir ar y wefan. Os ydych yn defnyddio Windows, gellir gwneud hyn trwy bwyso ALT + allwedd mynediad, ac os ydych yn defnyddio Macintosh, pwyswch Cmd + allwedd mynediad.

Mae pob tudalen ar y wefan hon yn diffinio’r allweddi mynediad canlynol:

  • Allwedd mynediad 1 – Hafan.
  • Allwedd mynediad 2 – Neidio i’r cynnwys.
  • Allwedd mynediad 3 – Map safle.
  • Allwedd mynediad 4 – Gosod y cyrchwr yn y blwch chwilio.
  • Allwedd mynediad 6 - Cymorth i gyrchu ein safle
  • Allwedd mynediad 0 – Help/manylion hygyrchedd (y dudalen hon).

Ailfeintio’r testun

Gellir ailfeintio testun y wefan hon yn unol ag anghenion pob defnyddiwr. Gellir ailfeintio’r testun trwy ddefnyddio bar offer y porwr, neu os ydych yn defnyddio Windows trwy wasgu’r allwedd Control i lawr ynghyd â + neu -.

Cynnwys allanol

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau allanol. Nid yw’n bosibl i GO Wales sicrhau cydymffurfiaeth safonau’r gwefannau allanol hyn.