GO Wales

Amdanom GO Wales

Mae GO Wales yn ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru drwy brofiad gwaith o safon a chyfle i hyfforddi gyda busnesau. Mae’r prosiect yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu economi wybodaeth Cymru; gall busnesau gael at sgiliau lefel uwch a syniadau newydd i gefnogi twf a datblygiad.

Rheolir y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Gwasanaethau Gyrfa Prifysgolion Cymru sydd yn ei ddarparu.

Mae GO Wales yn derbyn arian gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Nod y prosiect fydd darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i bron 6,741 o fyfyrwyr a’u paratoi ar gyfer eu darpar yrfaoedd yn ystod 2009-2014.

Ffeithiau 2009-2011

  • 1413 o fyfyrwyr a graddedigion wedi cael lleoliadau gwaith â thâl gyda busnesau yng Nghymru trwy GO Wales.
  • 65% o’r rheiny a gafodd leoliadau wedi cael cynnig gwaith tymor hir gyda chwmni eu lleoliad neu fusnes bach a chanolig arall ar ôl i’r lleoliad ddod i ben.
  • 1128 o fyfyrwyr a graddedigion wedi cymryd rhan mewn cwrs Blas ar Waith er mwyn gwella eu cyflogadwyedd.
  • mae 1650 o fusnesau wedi cymryd rhan yn GO Wales.

Ewch i weld graffeg gwybodaeth ddiweddaraf GO Wales >

Ymholiadau’r Cyfryngau

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrosiect GO Wales cysylltwch â Marchnata GO Wales:

Alysha Morgan - a.l.morgan@swan.ac.uk

Crystal Evans - c.b.evans@swan.ac.uk

Ymholiadau:
0845 225 60 50