Testun yn unig

Cyllid at Hyfforddiant GO Wales

Os ydych chi’n recriwtio unigolyn graddedig ar leoliad GO Wales gyda’ch cwmni, efallai y gallwch dderbyn hyd at £500 tuag at hyfforddiant sy’n gysylltiedig â busnes i gynorthwyo’r unigolyn hwnnw i wneud y cyfraniad mwyaf gwerthfawr i’ch busnes. Yn aml, mae graddedigion sydd ar leoliad GO Wales yn cael cymaint o effaith ar y busnes fel eu bod yn cael cynnig swydd fwy parhaol gyda’r cwmni ar ddiwedd eu lleoliad. Mewn achosion fel hyn hefyd, efallai y bydd arian ar gael i gynorthwyo hyfforddiant sy’n gysylltiedig â busnes. Mae’n rhaid i’r cyflogwr ddarparu cyllid cyfatebol i unrhyw arian a dderbynnir, a’r uchafswm y gallwch ei hawlio gan GO Wales yw £500 am bob unigolyn cymwys.

Ffoniwch 0845 225 60 50 neu e-bostiwch info@gowales.co.uk am ragor o wybodaeth. Gallwn hefyd roi manylion cyswllt eich swyddfa leol i chi.

Rhoi nod tudalen gyda: