Cwestiynau Cyffredin
Hyfforddi A Datblygu Graddedigion
- Rwy’n cyflogi 300 o bobl, ydy hi’n bosibl i ni gael at y gronfa?
- Mae cronfa HGD GO Wales ar gael i fusnesau bach neu ganolig (BBaCh) preifat / trydydd sector sy’n cyflogi llai na 250 o aelodau staff. Am fwy o fanylion a chanllawiau ynghylch BBaCh, ewch i: http://ec.europa.eu/enterprise/enterprise_policy/sme_definition/sme_user_guide.pdf. Mae’n bosibl cael at wasanaethau eraill GO Wales, gan gynnwys y cynllun Lleoliad Gwaith.
- Mae fy nghwmni wedi’i leoli ym Mryste, ydyn ni’n gymwys?
- Yn anffodus, mae cynllun GO Wales ar gael i gynorthwyo busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig.
- Rwy’n rhedeg elusen, ydy hi’n bosibl i ni gael cymorth ariannol?
- Mae gofyn i’ch cwmni gydymffurfio â’r lleiafswm niferoedd staff (llai na 250 o weithwyr). Yn ogystal, bydd galw arnoch i brofi nad ydych yn cael dros 50% o’ch cyllid o ffynonellau cyhoeddus (gan gynnwys cymorth ariannol y Loteri). Adolygir pob sefydliad yn unigol, felly cysylltwch â ni er mwyn trafod eich sefyllfa benodol.
- Graddiodd fy ngweithiwr graddedig beth amser yn ôl, ydy hi’n bosibl i ni gael cymorth ariannol o hyd?
- Does dim ots pa mor hir yn ôl y graddion nhw! Cyn belled â’u bod nhw’n byw yng Nghymru a’ch bod chi yn Fusnes Bach neu Ganolig sector preifat wedi’i leoli yng Nghymru sy’n fodlon ariannu eu hyfforddiant, mae hawl gennych wneud cais i dderbyn cymorth ariannol ar eu rhan.
- Rwy’n unig fasnachwr, a oes hawl gennyf wneud cais?
- Cyn belled â’ch bod yn weithiwr graddedig sy’n byw yng Nghymru a bod gofynion eich cwrs/hyfforddiant yn cwrdd â meini prawf HGD GO Wales, mae croeso i chi wneud cais am gymorth ariannol.
- Nid oes gan yr un o fy ngweithwyr radd, pam na allwn ni gael cymorth ariannol?
- Mae rhaglen HGD GO Wales wedi’i chynllunio i gynorthwyo graddedigion sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithio i fusnesau bach a chanolig. Rydym hefyd yn cynnig cymorth i weithwyr lefel raddedig - gwiriwch gymwysterau eich staff, mae’n bosibl nad oes ganddynt radd draddodiadol, ond rydym yn cynnwys cymwysterau HND ac NQF lefel 4. Os nad yw GO Wales yn gallu eich helpu, mae croeso i chi gysylltu â Chymorth Hyblyg i Fusnes i gael cyngor pellach ar fathau eraill o gymorth ariannol: www.fs4b.wales.gov.uk.
- A oes yna restr o gyrsiau a darparwyr hyfforddiant cymeradwy?
- Na – mae GO wales yn deall eich bod chi yn deall eich busnes yn well na neb a’ch bod chi’n gwybod pa hyfforddiant sydd ei angen arnoch er mwyn bod yn fwy cystadleuol. Bydd y rhaglen HGD yn ystyried pob cais yn unigol. Cyn belled a bod yr hyfforddiant y dymunwch ei fynychu yn cwrdd â’n meini prawf a’ch bod chi’n llwyddo i wneud achos busnes argyhoeddedig, mae croeso i chi wneud cais. Os nad ydych yn siŵr pa hyfforddiant y dymunwch gael ato, mae’n bosibl i chi dderbyn cyngor ac arweiniad trwy www.SkillsPeopleSuccess.com. I helpu i wella economi Cymru, rydym yn annog busnesau i ddefnyddio cwmnïau hyfforddi sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw hynny yn bosibl ar bob achlysur. Ni fydd eich dewis o ddarparwr hyfforddiant yn effeithio ar lwyddiant eich cais.
- Nid wyf yn siŵr a yw’r cwrs y dymunaf anfon fy staff arno yn cydymffurfio ag un o’ch categorïau - help!
- Cyn dechrau, mae angen i chi ddarganfod a yw’r cwrs y dymunwch gael mynediad ato yn lefel uwch (Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol lefel 4 neu uwch) neu’n lefel is (Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol lefel 1-3). Dylai darparwyr yr hyfforddiant allu eich cynorthwyo chi i nodi lefel y cwrs neu mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth pellach. Os gallwch chi gadarnhau bod yr hyfforddiant yn lefel uwch, yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw ein darbwyllo ni fod yna fantais eglur i’r cwmni ac i’r sawl sy’n cymryd rhan. Os nad yw’r hyfforddiant yn gyfwerth â Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol neu os ydyw o lefel is, rhaid iddo gydymffurfio ag un o’n categorïau eang. Ffoniwch ni i drafod cyrsiau penodol a’u cymhwysedd.
- Faint o amser fydd hi’n cymryd i wneud cais ac oes yna lawer o waith papur?
- Mae gwneud cais HGD yn broses ar-lein gyflym a hawdd ei defnyddio. Byddwch yn cael eich tywys trwy’r broses gan dîm lleol o arbenigwyr a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’r broses yn gallu bod yn llyfn ac yn hawdd, ond mae’r amser yn dibynnu ar ba mor hir mae’n cymryd i chi ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol. Yn debyg i unrhyw fath arall o gais am gymorth ariannol, mae yna waith papur sydd angen i chi ei gwblhau er mwyn gallu hawlio’r arian, ond rydym wedi sicrhau bod y broses mor eglur ag sy’n bosibl.
- O ble daw’r arian?
- Ariennir rhaglen GO Wales gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Cynllun yw GO Wales sydd wedi’i gynllunio i gadw pobl fedrus yng Nghymru a helpu busnesau i gael at y sgiliau hyn a manteisio arnynt.
- Faint o staff sy’n gallu cael cymorth ariannol?
- Y cyfanswm uchaf y gall pob gweithiwr graddedig ei dderbyn yw £1,500. Fodd bynnag, mae’n bosibl i gwmni dderbyn hyd at £8,500 o gymorth ariannol GO Wales yn ystod bywyd y prosiect presennol (rhwng 2009-2011). Mae’n bosibl i’r cyllid hwn gynnwys nifer o geisiadau HGD ond mae’n bosibl ei ddefnyddio hefyd i gael at gynllun Lleoliad Gwaith GO Wales.
Mae penderfyniad staff GO Wales yn derfynol bob amser ac mae’n bosibl diwygio neu dynnu’r rhaglen yn ôl ar unrhyw adeg.