Testun yn unig

Gwasanaethau i Gyflogwyr GO Wales

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i'ch helpu i recriwtio a chadw graddedigion. Gallech fod ar eich ennill trwy gynnig profiad gwaith i fyfyriwr neu berson graddedig, manteisio ar y cymorth ariannol sydd ar gael i hyfforddi staff, recriwtio myfyriwr neu berson graddedig trwy leoliad gwaith neu hysbysebu swydd am ddim. Mae miloedd o fusnesau Cymru eisoes wedi manteisio ar raglen GO Wales.

Lleoliadau Gwaith

Mae Lleoliadau Gwaith GO Wales yn rhoi cyfle i chi ddenu'r myfyrwyr a'r graddedigion gorau i'ch busnes. Cyflogwch unigolyn medrus i weithio ar brosiect byrdymor a derbyn cymhorthdal tuag at y cyflog.

Recrwtio

Swyddi GO Wales yw'r unig wefan recriwtio graddedigion am ddim yng Nghymru.

Gall busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru fanteisio ar ein gwasanaeth hysbysebu swyddi ar-lein er mwyn hysbysebu eu swyddi.

Cyllid At Hyfforddiant

Os ydych chi'n recriwtio unigolyn graddedig ar Leoliad GO Wales gyda'ch cwmni, efallai y gallwch dderbyn hyd at £500 tuag at hyfforddiant sy'n gysylltiedig â busnes i gynorthwyo'r unigolyn hwnnw i wneud y cyfraniad mwyaf gwerthfawr i'ch busnes.

Blas Ar Waith

Mae Blas Ar Waith GO Wales yn hyblyg dros ben, gyda'r amcan o ddarparu myfyrwyr a graddedigion newydd â 'blas' ar yrfa arbenigol neu awyrgylch gwaith. Dan y cynllun mae'r myfyriwr yn gweitio am ddim er mwyn dysgu mwy am yrfa neu sector busnes penodol.

Rhoi nod tudalen gyda: