GO Wales yw'r lle delfrydol i hysbysebu'ch holl swyddi i raddedigion – a hynny am ddim! Mae miloedd o raddedigion o bob maes gradd wedi cofrestru gyda GO Wales ac yn defnyddio'r wefan yn ddyddiol i chwilio am swyddi. Trwy roi'ch swydd ar wefan GO Wales byddwch yn lleihau eich costau hysbysebu'n sylweddol ac yn sicrhau eich bod yn cyrraedd pobl o'r safon briodol i'ch cwmni.
Mae'n hawdd hysbysebu gyda GO Wales – llenwch ein Ffurflen Cyflwyno Swydd a'i hanfon mewn ebost i'n Huned Swyddi Ganolog yn jobs@gowales.co.uk. Bydd eich hysbyseb yn ymddangos ar wefan GO Wales o fewn 24 awr ac yn aros yno tan y dyddiad cau a nodwyd.
Os oes angen cymorth arnoch, mae tîm yr Uned Swyddi Ganolog bob amser yn barod i helpu - ffoniwch 0845 490 0995 neu anfonwch e-bost at jobs@gowales.co.uk. Byddem hefyd yn falch o gael unrhyw adborth am ein gwasanaeth.
Rhoi nod tudalen gyda: