Os ydych chi neu’ch sefydliad wedi’ch lleoli yng Nghymru a’ch bod yn recriwtio graddedigion, beth am hysbysebu eich swydd wag gyda GO Wales?
Mae Swyddi GO Wales yn wefan recriwtio AM DDIM y mae cannoedd o raddedigion sy’n chwilio am waith yng Nghymru’n edrych arni bob wythnos.
Mewn pedwar cam hawdd Mewn pedwar cam hawdd yn unig gallwch restru eich swyddi wag er mwyn cael mynediad at y miloedd o raddedigion sy’n chwilio am waith. Ar ôl i chi gofrestru eich cwmni, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi teitl y swydd wag a’r terfyn amser, swydd ddisgrifiad, sut i wneud cais, lleoliad a chategori’r swydd. Caiff bob un o’ch swyddi eu cadw fel y gallwch ailrestru neu eu golygu yn y dyfodol.
I gyflwyno’ch swydd wag trwy gyfrwng y Gymraeg, cliciwch ar y ddolen fydd yn eich tywys at ffurflen gyflwyno. Defnyddiwch y templed hwn i rannu manylion eich swydd gyda ni, y gallwch gadw’r manylion amdani a’u hanfon mewn neges e-bost at jobs@gowales.co.uk. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich swydd wag ar-lein.
Os hoffech gysylltu â thîm Swyddi GO Wales, anfonwch neges e-bost at jobs@gowales.co.uk
Noder y bydd oedi o tua 30 munud yn ystod oriau swyddfa tra bod ein staff yn gwirio eich hysbyseb. Er mwyn cynnal ansawdd, noder bod GO Wales yn cadw’r hawl i wrthod rhestriad os nad yw’n cyrraedd ein meini prawf ansawdd (ar gael ar gais).