GO Wales

Newyddion GO Wales

GO Wales yn cefnogi adroddiad CBI ar bwysigrwydd...

Lansiodd Conffederasiwn y Diwydiant Busnes (CBI) adroddiad yn ddiweddar yn amlygu’r angen i fyfyrwyr gael profiad gwaith er mwyn rhoi hwb i’w siawns o gael gwaith yn y dirywiad economaidd.

Mae’r adroddiad, ‘paratoi graddedigion ar gyfer y byd gwaith’, yn rhoi enghreifftiau o sut y mae busnesau a phrifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau ac ymgorffori cyflogadwyedd i’r cyrsiau.

Wrth lansio’r adroddiad, dywedodd pennaeth CBI, Richard Lambert:

“Mae dweud na fydd dosbarth 2009 yn ei chael hi’n hawdd yn danosodiad, bydd cystadleuaeth am swyddi y mwyaf tanbaid ers nifer o flynyddoedd.”

“Wrth gwrs, nid yw busnesau’n disgwyl i raddedigion gyrraedd ar y diwrnod cyntaf yn gyfan gwbl hyfforddedig, ond yr hyn y maent ei werthfawrogi mewn graddedigion yw eu sgiliau pobl, canolbwyntio ar y cwsmer a’u brwdfrydedd i ddatrys problemau.”

“Dylai graddedigion fod yn barod i ddysgu a datblygu, dod â syniadau newydd a chyfrannu at ddatblygiad a thyfiant y busnes yn y dyfodol.”

Mae’r adroddiad yn nodi os yw’r DU yn barod i wneud y mwyaf o’r adferiad economaidd pan ddaw, mae'n rhaid bod gan y genhedlaeth hon o raddedigion sgiliau cyflogadwyedd hanfodol.

Rhoi nod tudalen gyda:

chwilio

Wedi methu dod o hyd i'r hyn yr oeddech yn chwilio amdano?