Byddai cwmni sy’n cynnal lleoliad yn cyflogi rhywun ar leoliad er mai am gyfnod cyfyngedig fyddai hynny. O ganlyniad, mae holl oblygiadau cyfreithiol cyflogaeth yn berthnasol. Gan mai GO Wales sydd wedi darparu’r gyflogaeth hon, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i sicrhau bod pob cwmni cynnal lleoliad yn bodloni isafswm y gofynion mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y gweithle, fel Rheoliadau Iechyd a Diogelwch a Rheoliadau Amser Gweithio
Bydd disgwyl i chi dalu isafswm o £250 i’r sawl sydd ar leoliad ar gyfer wythnos waith arferol. Gellir derbyn cymhorthdal mewn ôl-daliadau o hyd at £100 yr wythnos gan raglen GO Wales.
Fodd bynnag, dylech ystyried bod angen i gyflog ac oriau'r sawl sydd ar leoliad fod o fewn cwmpas deddfwriaeth cyflog isafswm ac amser gweithio y DU.
Mae myfyrwyr a graddedigion ar leoliad GO Wales yn cyflawni Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol City and Guilds. Mae’r dyfarniad wedi cael ei gynllunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr a graddedigion ar leoliad gwaith ac mae’n cynnig nifer o fanteision i chi fel cyflogwr:
Nid yw’n cymryd llawer o amser i’r cyfranogwr gwblhau’r dyfarniad. Mae cymorth y cyflogwr yn hanfodol, ac mae’r rheiny sydd wedi cynorthwyo myfyrwyr a graddedigion i gwblhau’r dyfarniad wedi dweud wrthym bod buddion amlwg iddyn nhw.
I gael mwy o wybodaeth am y Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol, cysylltwch â ni ar pda@gowales.co.uk.