Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, awtistiaeth yw’r anabledd nad oes neb yn ei weld, yr anabledd anweledig sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’r byd o’u cwmpas. Yn aml caiff pobl sydd ag awtistiaeth anawsterau wrth ddelio â phobl eraill o ddydd i ddydd ac wrth geisio gwneud synnwyr o’r byd. Mae pobl sydd ag awtistiaeth fel arfer yn cael trafferthion mewn tri phrif maes yn bennaf:
Ar ben hyn, gellir gweld patrymau ymddygiad ailadroddus yn llawer o’r dioddefwyr ac maent yn gwrthwynebu unrhyw newid i drefn arferol pethau. Mae gan rai dioddefwyr anawsterau dysgu hefyd.
Math o awtistiaeth yw Syndrom Asperger, ac maent yn rhannu llawer o’r un nodweddion (gan gynnwys y tri phrif maes y sonnir amdanynt uchod). Er hynny, fel arfer mae gan bobl sydd â Syndrom Asperger lai o broblemau iaith na’r rheiny sydd ag awtistiaeth, ac nid ydynt fel arfer yn cael yr un anawsterau dysgu ychwaith; yn wir mae pobl â Syndrom Asperger yn aml o allu cyffredin os nad â deallusrwydd sy’n uwch na’r cyffredin.
Yn aml mae pobl sydd â Syndrom Asperger yn magu diddordeb arbennig mewn rhyw faes arbennig sydd bron â bod yn obsesiwn ganddynt. Fel arfer mae eu diddordeb yn cynnwys trefnu neu gofio ffeithiau a rhifau ynghylch pwnc arbennig. Mae unrhyw newid yn aml yn peri dryswch a gofid i’r rhai sy’n dioddef o Syndrom Asperger ac mae’n well ganddynt drefnu eu diwrnod yn ôl patrwm gosodedig. Gall unrhyw newid annisgwyl i’r drefn honno eu gofidio a’u cynhyrfu.
Dyma’r prif nodweddion, ond mae pob person yn unigolyn, a bydd y nodweddion hyn yn amrywio’n fawr ac efallai y bydd rhai yn dod i’r amlwg yn fwy nag eraill.
Yn y lle gwaith gall pobl sydd â Syndrom Asperger gynnig llawer - maent yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn ymroddedig, er bod cael cyflogwyr a cydweithwyr sydd yn hyddysg ac yn deall yn hanfodol.
Mae’r syndrom Asperger yn effeithio ar sgiliau cymdeithasol ac yn aml mae gan unigolion sydd â Syndrom Asperger rhyw faes y maent yn ymddiddori’n fawr ynddo ac yn arbenigo ynddo a allai eu gwneud yn ddefnyddiol iawn i sefydliad. Mae llawer o bobl sydd â syndrom Asperger yn aml ar eu gorau mewn gwaith sy’n gofyn am drefn hollol sefydlog, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu yn hytrach na meddwl creadigol.
Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gellwch ynghylch oblygiadau’r syndrom ar yr unigolyn, a beth yw eu cryfderau a’u gwendidau. Gallech ofyn i’r ymgeisydd roi llythyr meddygol byr i chi sy’n nodi eu diagnosis ac sy’n esbonio’n gryno’r ffyrdd y mae’n debygol o effeithio arnynt. Gall hyn eich helpu i ddeall y newidiadau y bydd angen i chi eu gwneud ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw.
Llwyddodd Katherine ac Alex ill dau i ddod o hyd i swyddi gyda chymorth Prospects. Darllenwch beth oedd barn eu cyflogwyr yn www.nas.org.uk/nas/jsp/polopoly.jsp?d=149&a=2329.
Rhoi nod tudalen gyda: