Yn ôl Scope, nid yw parlys yr ymennydd (cerebral palsy) yn afiechyd nac yn salwch. Mae’n ddisgrifiad o ddiffyg corfforol sy’n effeithio ar symudiadau’r corff. Amrywia’r problemau symud o berson i berson, o fod yn broblem yr ydych prin yn sylwi arni i fod yn ddifrifol iawn. Nid oes unrhyw ddau berson sydd â pharlys yr ymennydd yr un fath; y mae mor unigolyddol â phobl eu hunain.
Mae “parlys yr ymennydd” yn cynnwys amrywiaeth o gyflyrau gwahanol. Mae’r tri phrif fath yn cyfateb i anafiadau i rannau gwahanol yr ymennydd:
Yn aml mae pobl sydd â pharlys yr ymennydd yn cael trafferth rheoli eu symudiadau a’u hwynebau. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu yr amharwyd ar eu gallu meddyliol mewn unrhyw fodd. Mae gan rai ddeallusrwydd sy’n uwch na’r cyffredin; mae gan eraill â’r parlys anawsterau dysgu canolig neu ddifrifol. Mae’r rhan fwyaf, fel y rhan fwyaf o bobl heb y cyflwr, yn berchen ar ddeallusrwydd normal.
Mae‘n debyg y bydd myfyriwr sydd wedi gallu mynd drwy gwrs Addysg Uwch yn gallu rheoli ei symptomau‘n ddigon da i allu perfformio‘n iawn yn y byd gwaith. Yn wir, maent yn debygol o fod yn fwy penderfynol ac awyddus i wneud y gwaith.
Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gellwch ynghylch oblygiadau‘r syndrom ar yr unigolyn, a beth yw eu cryfderau a‘u gwendidau. Disgwylir hyn a bydd yn eich helpu i ddeall pa addasiadau y bydd angen i chi ei wneud efallai ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw. Gallech ofyn i‘r ymgeisydd roi llythyr meddygol byr i chi sy‘n nodi eu diagnosis ac sy‘n esbonio‘n gryno‘r ffyrdd y mae‘n debygol o effeithio arnynt. Mae pawb yn unigolyn, felly mae‘n bwysig cydweithio gyda‘r person i ddod o hyd i ateb addas ar gyfer pob sefyllfa.
Efallai y byddai modd i chi gael cymorth ariannol tuag at unrhyw gostau i wneud newidiadau rhesymol drwy‘r cynllun Mynediad at Waith, gan y Ganolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad i Waith hefyd roi grantiau ar gyfer addasiadau corfforol i adeiladau i symud unrhyw rwystrau sydd yno i weithwyr sydd ond yn medru symud ychydig.
Rhoi nod tudalen gyda: