Testun yn unig

Syndrom Blinder Cronig (Chronic Fatigue Syndrome / CFS)

Mae’n cael ei adnabod hefyd fel: Myalgic Encephalomyelitis (ME); Syndrom Blinder ar ôl Feirws (Post Viral Fatigue Syndrome / PVFS)

Diffiniadau

Syndrom Blinder Cronig (CFS)

Mae’r Syndrom Blinder Cronig (CFS) yn cael ei ystyried yn afiechyd y system nerfol sy’n effeithio ar yr unigolyn yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Ni ddeallir yn iawn beth sy’n ei achosi, ond er ei fod yn aml yn datblygu ar ôl feirws, megis ffliw neu dwymyn y chwarennau (glandular fever), gall hefyd ddigwydd yn araf heb yr un rheswm amlwg.

Gall symptomau CFS amrywio’n arw, gyda symptomau gwahanol yn effeithio ar bobl wahanol, ac unigolion yn dioddef symptomau gwahanol ar adegau gwahanol. Nid yw’n anarferol i bobl gael dyddiau gwael a dyddiau da, y cyflwr yn ysgafnhau am blwc ac yna pwl arall yn eu gwaelu. Mae’n bwysig cofio nad yw cyfnod o ysgafnhau ar y symptomau yn golygu bod y cyflwr wedi mynd, ac mae gwneud gormod yn gallu golygu ailwaelu. Gwneir diagnosis o CFS yn amlach na pheidio yn sgil casgliad o symptomau, gan gynnwys:

  • Llesgedd – yn aml yn mynd tu hwnt i flinder arferol
  • Poen yn y Cyhyrau
  • Anhwylder Cyffredinol, tebyg i ffliw
  • Anallu afreolaidd i ganolbwyntio a chofio
  • Colli cydbwysedd
  • Gwendid yn y Cyhyrau
  • Gorsensitifrwydd i stimwli – gan gynnwys golau, a chyffyrddiad
  • Stamina Gwael
  • Problemau Treulio Bwyd ac Alergeddau Bwyd
  • Methu Dioddef Alcohol
  • Cysgu’n aflonydd
  • Rheolaeth wael ar dymheredd
  • Cur pen a’r meigryn
  • Hwyliau oriog – sydd weithiau’n arwain at iselder. Golyga hyn wedyn bod CFS weithiau’n cael ei gamddehongli fel iselder.

Nid oes un gwellhad sy’n gyffredin i bawb, a gall triniaeth sy’n gweithio i un person wneud dim i un arall, neu hyd yn oed fod yn wrthgynhyrchiol iddynt. Gall anian afreolaidd ac anweledig y cyflwr olygu camddealltwriaethau a rhagdybiaethau fod y dioddefwr yn ddiog, neu’n cymryd arnant eu bod yn wael, sy’n gallu bwydo iselder ac oriogrwydd mewn hwyliau yr unigolyn.

Dysgu dros amser beth sy’n gweithio orau iddyn nhw y mae pobl sydd â’r cyflwr, a dysgu sut i reoli’r cyflwr, ac ymhen amser maent yn gallu ymgyrraedd tuag at 'normalrwydd' lle nad ydynt mwyach ar drugaredd eu symptomau ac maent unwaith eto yn galllu rheoli’u bywydau.

Pethau i’w hystyried

Mae’n debyg y bydd myfyriwr sydd wedi gallu mynd drwy gwrs Addysg Uwch yn gallu rheoli ei symptomau’n ddigon da i allu perfformio’n iawn yn y byd gwaith. Yn wir, maent yn debygol o fod yn fwy penderfynol ac awyddus i wneud y gwaith.

Er hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn hyblyg er mwyn osgoi rhoi pwysau di-alw-amdano ar yr unigolyn. Gallai newidiadau rhesymol gynnwys darparu lle parcio car, cyflwyno dull gweithio oriau hyblyg, caniatáu gweithio o gartref, cael sgrin gyfrifiadur arall neu gadair arbenigol neu gynyddu’r nifer o seibiannau y mae ganddynt hawl iddynt.

Efallai y byddai modd i chi gael cymorth ariannol tuag at unrhyw gostau i wneud newidiadau rhesymol drwy’r cynllun Mynediad at Waith, gan Job Centre Plus. Mae CFS yn gyflwr unigolyddol iawn, felly mae’n bwysig cydweithio â’r person i ddod o hyd i atebion addas.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Action for ME
Prif elusen Prydain sy’n ymroddedig i wella bywydau pobl sydd ag ME / CFS. Mae’r safle hwn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y cyflwr, grwpiau cefnogi a gwybodaeth ymgyrchu.
ME Association
Yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ag ME / CFS a gwybodaeth ynghylch y cyflwr.
Techdis
Mae'r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata fawr o ddeunydd technolegol addasol i gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: