Testun yn unig

Poen Gwddf / Cefn Cronig

Diffiniadau

Poen Gwddf / Cefn Cronig

Yn ôl Deddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd 1995, gellir ystyried poen difrifol a chronig yn y gwddf a’r cefn yn anabledd o dan rai amgylchiadau, lle mae’n achosi “effaith andwyol a sylweddol tymor-hir ar y gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol”. Gall poen gael ei achosi gan amrywiaeth o wahanol gyflyrau megis arthritis a chryd cymalau neu yn sgil anaf neu ddigwyddiad (megis disg o’i le).

Gall y cyflwr achosi colli ystwythder ac mewn rhai achosion arwain at broblemau’n ymwneud â symud o gwmpas. Efallai y byddai angen i’r unigolyn dan sylw gael dodrefn arbennig i leihau’r boen, neu dechnoleg arbenigol i symud rhwystrau penodol.

Pethau i’w hystyried

Mae'n debyg y bydd myfyriwr sydd wedi gallu mynd drwy gwrs Addysg Uwch yn gallu rheoli ei symptomau'n ddigon da i allu perfformio'n iawn yn y byd gwaith. Yn wir, maent yn debygol o fod yn fwy penderfynol ac awyddus i wneud y gwaith.

Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gellwch ynghylch oblygiadau'r syndrom ar yr unigolyn, a beth yw eu cryfderau a'u gwendidau. Disgwylir hyn a bydd yn eich helpu i ddeall pa addasiadau y bydd angen i chi ei wneud efallai ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw. Gallech ofyn i'r ymgeisydd roi llythyr meddygol byr i chi sy'n nodi eu diagnosis ac sy'n esbonio'n gryno'r ffyrdd y mae'n debygol o effeithio arnynt. Mae pawb yn unigolyn, felly mae'n bwysig cydweithio gyda'r person i ddod o hyd i ateb addas ar gyfer pob sefyllfa.

Efallai y byddai modd i chi gael cymorth ariannol tuag at unrhyw gostau i wneud newidiadau rhesymol drwy’r cynllun Mynediad at Waith, gan Job Centre Plus. Gall y cynllun Mynediad i Waith hefyd roi grantiau ar gyfer addasiadau corfforol i adeiladau i symud unrhyw rwystrau sydd yno i weithwyr sydd ond yn medru symud ychydig.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Arthritis Research Campaign
Taflen gynhwysfawr ar boen gwddf.
British Back and Spine Foundation
Mae gwefan BBSF yn cynnwys gwybodaeth am boen gwddf a chefn y gellwch ei lawrlwytho.
Backcare
Elusen sy’n darparu gwybodaeth a chyngor am y cefn a phoen cefn.

Rhoi nod tudalen gyda: