Clefyd y Siwgwr
Diffiniadau
Mae'r clefyd melys (diabetes mellitus) yn gyflwr lle mae gormod o glwcos (siwgwr) yn y gwaed oherwydd nad yw'r corff yn gallu'i ddefnyddio'n iawn. Mae dau brif fath o glefyd y siwgwr, sef:
- Diabetes, Math 1, sydd hefyd yn cael ei alw'n diabetes sy'n dibynnu ar inswlin.
- Nid yw'r corff yn gallu cynhyrchu unrhyw inswlin o gwbl. Fel arfer mae'r math hwn o glefyd y siwgwr yn ymddangos cyn 40 oed. Y driniaeth ar ei gyfer yw chwystrelliadau inswlin ac argymhellir ymarfer corff rheolaidd.
- Diabetes, Math 2, sydd hefyd yn cael ei alw'n diabetes nad yw'n dibynnu ar inswlin.
- Mae'r corff yn dal yn gallu cynhyrchu peth inswlin, ond dim digon, neu pan gynhyrchir inswlin nid yw'n gweithio'n iawn (sef gwrthwynebiad i inswlin). Mae'r math hwn o glefyd y siwgwr fel arfer yn ymddangos mewn pobl sydd yn hyn na 40 oed, er ei fod yn aml yn ymddangos cyn 40 mlwydd oed ym mhobl De Asia a phobl Affricanaidd-Caribïaidd. Y driniaeth ar ei gyfer yw un ai diet ac ymarfer corff yn unig, neu ddiet, ymarfer corff a thabledi neu drwy ddiet, ymarfer corff a phigiadau inswlin.
Er nad yw rhai swyddi yn addas ar gyfer pobl sydd angen triniaeth inswlin, cyn belled â bod y cyflwr dan reolaeth, nid oes reswm y byd pam na all pobl ddiabetig gael wneud y rhan fwyaf o swyddi.
Pethau i'w hystyried
Ac eithrio swyddi sydd â chyfyngiadau cyfreithiol i bobl sy'n derbyn triniaeth inswlin (y Gwasanaethau Brys, y Lluoedd Arfog, rhai swyddi lle mae hedfan yn rhan bwysig), nid oes unrhyw reswm pam na all person diabetig wneud y rhan fwyaf o swyddi gystal â phe na byddent yn dioddef o'r cyflwr. Yn wir, mae'r bobl hynny sydd wedi gorfod rheoli eu clefyd wedi gorfod magu agwedd gyfrifol a sgiliau rheoli amser da.
Adnoddau
Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
- Diabetes UK
- Safle sydd â gwybodaeth gefndirol dda ynghylch y cyflwr. Mae eu catalog o gyhoeddiadau yn cynnwys taflen ynghylch gwaith cyflogedig y gellir ei brynu o'r safle.
- Diabetes Insight
- Safle sy'n canolbwyntio ar fyw gyda chlefyd y siwgr, gan gynnwys cymuned ar-lein.
- Techdis
- Mae'r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata fawr o ddeunydd technolegol addasol i gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o anableddau.
Rhoi nod tudalen gyda: