Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn disgrifio Dyslecsia fel afreoleidd-dra yn y rhan o'r ymennydd sy'n prosesu iaith. Mae'n effeithio ar y sgiliau sylfaenol sy'n angenrheidiol i ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu. Mae tua 4% o'r boblogaeth yn ddifrifol ddyslecsig gyda 6% pellach â symptomau ysgafn i gymedrol. Nodweddir dyslecsia gan gydbwysedd anarferol o sgiliau, ond nid yw'n effeithio ar ddeallusrwydd yr unigolyn.
Yn nodweddiadol, mae gan unigolion dyslecsig nifer o gryfderau. Yn aml, maent yn feddylwyr gwreiddiol, yn rhagorol am ddatrys problemau gan amlygu dawn gynhenid. Maent yn aml yn feddylwyr ochrol, yn gyfathrebwyr graenus, yn dda mewn celf, dylunio, peirianneg ac unrhyw rôl sy'n gofyn am sgiliau ymarferol.
Mae'r gwendidau i'w gweld fel arfer mewn meysydd megis rheoli amser a threfnu, gall eu sillafu fod yn anghyson a'u llawysgrifen braidd yn annarllenadwy. Gall fod ynddynt duedd hefyd i gamddarllen a hynny'n arwain at anawsterau dealltwriaeth.
Mae'r mwyafrif o'r rhai sydd â dyslecsia wedi cael cefnogaeth drwy gydol eu haddysg ac wedi datblygu ystod o strategaethau ymdopi sy'n eu galluogi i gyflwyno gwaith o safon cyn uched â gweithwyr eraill. Bydd gan bob person dyslecsig gyfuniad gwahanol o gryfderau. Yn aml, mae oedolion dyslecsig yn hynod o frwdfrydig a gallant ddod â lefelau uchel o benderfyniad a dyfalbarhad i'w swyddi.
Does dim rhaid i chi fodloni ar lefelau gwahanol o waith oddi wrth weithiwr dyslecsig, ond efallai y bydd rhaid iddynt ymdrin â thasg yn wahanol. Trafodwch y materion â'r gweithiwr, maent hwy'n gwybod pa strategaethau ymdopi y maent wedi'u datblygu a byddant yn ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio orau iddynt hwy.
Mae sawl ffordd syml o addasu amgylchfyd gwaith, a gall pob un o'r rhain gael effaith gadarnhaol ar bob gweithiwr. Gallwch ddod o hyd i gyngor ac enghreifftiau ar wefan Cymdeithas Dyslecsia Prydain.
Rhoi nod tudalen gyda: