Testun yn unig

Epilepsi

Diffiniadau

Epilepsi

Epilepsi yw'r duedd i gael ffitiau cyson sy'n tarddu o'r ymennydd. Yn ôl Epilepsy Action, dyma'r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ond un (ar ôl meigrynnau) gydag 1 ym mhob 133 o bobl yn y DU ag Epilepsi arnynt.

Mae ffit yn digwydd pan geir ymyrraeth sydyn yng ngweithgarwch arferol yr ymennydd. Nid yw pob ffit yn arwain at gonfylsiwn, mewn gwirionedd gall effeithio ar unrhyw un o swyddogaethau niferus yr ymennydd gan gynnwys:

  • personoliaeth
  • yr hwyl
  • cof
  • cyffroadau
  • symudiad
  • ymwybyddiaeth

Gyda'r driniaeth feddygol gywir, mae mwyafrif y bobl sydd ag Epilepsi yn gallu rheoli'r cyflwr a byw bywyd cwbl ‘normal'. Ceir sawl math o Epilepsi, a nifer o achosion a symptomau gwahanol. Mae mwyafrif y bobl sydd ag Epilepsi yn gallu gweithio mewn unrhyw faes a ddymunant, gan gynnwys swyddi sy'n golygu defnyddio cyfrifiaduron neu yrru. Mae effaith epilepsi ar opsiynau cyflogaeth yn amrywio yn ôl y gwahanol fathau o epilepsi.

Pethau i'w Hystyried

Ychydig iawn yw'r swyddi na all pobl ag Epilepsi eu cyflawni. Mae rhai galwedigaethau wedi'u cyfyngu gan ddeddfwriaeth, ac eraill a allai fod yn gyfyngedig i bobl â mathau penodol o ffitiau. Darperir rhestr ar wefan Cymdeithas Genedlaethol Epilepsi.

Yn groes i'r gred gyffredinol, gall y rhan fwyaf o bobl ag Epilepsi ddefnyddio cyfrifiaduron heb iddynt achosi eu ffitiau, ac mae llawer yn abl i yrru. Mae'n bwysig ystyried goblygiadau'r cyflwr ar unigolyn penodol, a gall fod o fudd i chi i ddarganfod:

  • A yw'r unigolyn yn dal i gael ffitiau?
  • Os ydynt yn cael ffitiau, pa fath(au) ydynt?
  • Beth sy'n digwydd yn ystod y ffitiau?
  • Pa mor aml y digwydd y ffitiau ac a ydynt yn digwydd ar adeg arbennig?
  • A oes rhywbeth penodol yn achosi'r ffitiau?
  • Faint o amser sydd ei angen ar unigolyn i wella? Gall rhai pobl ddychwelyd i'r gwaith yn syth ar ôl ffit, tra bod eraill angen amser i ddod at eu hunain.

O wneud ychydig “addasiadau rhesymol” mae'n bur debyg y gellir yn aml oresgyn effaith epilepsi ar gyflogaeth.

Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau rhesymol o'r cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Jobcentre Plus.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Cymdeithas Genedlaethol Epilepsi
Mae'r wefan hon yn cynnwys taflenni defnyddiol ar amrediad o bynciau'n ymwneud ag epilepsi, gan gynnwys cyflogaeth.
Epilepsy Action
Yn darparu ystod eang o wybodaeth am Epilepsi, gan gynnwys cyngor ynghylch hysbysu cyflogwr o'ch Epilepsi a'i oblygiadau.
Techdis
Mae'r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata helaeth o ddatrysiadau technoleg addasol ar gyfer ystod o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: