Nid yw Nam Clyw o reidrwydd yn golygu byddardod llwyr. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar (RNID) yn amcangyfrif bod gan tua 9 miliwn o bobl yn y DU nam ar eu clyw. Does gan rai ohonynt ddim neu fawr ddim clyw o’u genedigaeth; bydd eraill yn colli eu clyw o ganlyniad i ddamwain, ac eraill oherwydd cyflwr meddygol.
Mae rhai pobl â chlyw rhannol yn gallu defnyddio cymorth clyw er mwyn clywed beth sy’n digwydd o’u cwmpas. Bydd eraill yn mynd ati i ddarllen gwefusau er mwyn deall pobl yn siarad. Bydd eraill (gan amlaf ond nid bob amser, pobl sy’n drwm iawn eu clyw), yn defnyddio iaith arwyddion. Yn aml, defnyddir cyfuniad o’r dulliau hyn, ac mae’r RNID yn darparu cyngor defnyddiol yn eu taflen ‘Deaf and Hard of Hearing People’, sydd ar gael o’u gwefan.
Bydd goblygiadau nam clyw yn amrywio yn ôl yr unigolyn, yn cynnwys gwneud yn siŵr bod acwstig da mewn ystafell i ddarparu cyfieithydd Iaith Arwyddion ar gyfer cyfarfodydd. Dylai unrhyw weithiwr posibl egluro goblygiadau lefel benodol y diffyg yn eu clyw. Ar wefan yr RNID ceir enghreifftiau da o'r math o addasiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud. Mewn nifer o achosion, bydd y cynllun Mynediad at Waith yn darparu cyllid i gwrdd â chostau ychwanegol.
Mae pecyn “Don't Panic” yr RNID, a gynhyrchir ar gyfer cyflogwyr, yn arweiniad hawdd-ei-ddilyn ar recriwtio a datblygu staff byddar a thrwm eu clyw. Gallwch ei lawrlwytho o'r Adran Adnoddau.
Mae’r ETSS yn darparu cyngor a chymorth i bobl fyddar a thrwm eu clyw sydd:
Mae ETSS hefyd yn cynnig cymorth i gyflogwyr a hyfforddwyr i godi eu hymwybyddiaeth o anghenion y byddar a’r trwm eu clyw. Enghreifftiau o’r cymorth a gynigir:
Rhoi nod tudalen gyda: