CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – ANABLEDD
Safbwynt y Cyflogwr
Diffiniadau
- Person Ag Anabledd
-
Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DGSA) yn diffinio “person ag anabledd” fel unigolyn sydd â nam “corfforol” (gan gynnwys synhwyraidd) neu nam meddwl sy’n cael effaith andwyol a sylweddol tymor-hir ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.”. Golyga hyn er mwyn i unigolyn gael ei ch/gynnwys o dan ddiffiniad anabledd y Ddeddf:
- rhaid bod arnynt nam sydd naill ai’n nam meddwl/corfforol sy’n cynnwys nam synhwyraidd (megis nam ar y clyw neu’r golwg)
- rhaid bod y nam yn cael effaith andwyol sy’n sylweddol; e.e. heb fod yn bitw neu sy’n mynd y tu hwnt i wahaniaethau arferol rhwng pobl
- rhaid i’r effeithiau sylweddol fod yn dymor-hir, naill ai mae’n rhaid bod yr effaith wedi para 12 mis neu’n debygol o gael effaith am 12 mis fan leiaf
- rhaid bod yr effeithiau sylweddol tymor-hir yn cael effaith andwyol ar weithgareddau arferol o ddydd i ddydd
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r canlynol:
- mae’n rhaid, yn ychwanegol, yn achos rhywun sydd ag anhwylder Iechyd Meddwl, bod y salwch yn cael ei gydnabod yn dda’n glinigol er mwyn iddo gael ei gynnwys o dan ddiffiniad anabledd y Ddeddf
- mae rhywun sydd wedi gwella o anabledd a gynhwysir o dan y diffiniad yn y Ddeddf, yn dal i ddod o dan y ddeddfwriaeth ac fe’i gwarchodir rhag anffafriaeth
- nid yw’n dilyn o angenrheidrwydd fod unigolyn sy’n derbyn budd-daliadau anabledd hefyd yn cyrraedd meini prawf anabledd o dan y Ddeddf
- mae’r ddeddfwriaeth yn cydnabod effaith gyfansawdd yr holl anableddau na fyddent, yn unigol, yn gyfystyr ag anabledd fel y’i diffinnir gan y Ddeddf
- os oes gan rywun nam cynyddol megis parlys ymledol (MS) nid oes raid iddo/i ddangos bod yr anhwylder yn cael effaith sylweddol ar hyn o bryd i gael ei ch/gynnwys o dan y DdGSA. Ond mae’n rhaid bod y cyflwr yn cael peth effaith ar allu’r unigolyn i berfformio gweithgareddau o ddydd i ddydd ac mae’r cyflwr yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol yn y dyfodol
Materion Penodol
Mae'n debygol y bydd llawer o'r addasiadau rhesymol y bydd myfyriwr wedi manteisio arnynt yn ystod ei astudiaethau ar gael mewn cyd-destun gwaith hefyd. Peidiwch â bod ofn gofyn i weithwyr cyflogedig arfaethedig ynglŷn ag unrhyw addasiadau sydd eu hangen arnynt (bydd yr addasiadau hyn yn amrywio o un unigolyn i'r llall).
Y DGSA a chyflogaeth
Mae Rhan II y DGSA, a ddaeth i rym ar 2 Rhagfyr 1996, yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwr drin ymgeiswyr neu weithwyr cyflogedig anabl yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eu hanabledd. Tan fis Hydref 2004, roedd y Ddeddf yn cwmpasu pob cyflogwr â 15 neu fwy o weithwyr cyflogedig, ac eithrio rhai proffesiynau fel yr heddlu a'r lluoedd arfog
Ers mis Hydref 2004, mae cyflogwyr â llai na 15 o weithwyr cyflogedig hefyd yn cael eu cwmpasu, gan gynnwys llawer o'r proffesiynau a oedd gynt yn cael eu heithrio fel y gwasanaeth tân, yr heddlu a charchardai. Fodd bynnag, ni chwmpesir aelodau sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
O dan y Ddeddf, mae gan y cyflogwr ddyletswydd i wneud 'addasiadau rhesymol' os bydd ymgeisydd neu weithiwr cyflogedig anabl dan anfantais sylweddol o gymharu ag eraill. Mae'r ddyletswydd yn berthnasol i nodweddion ffisegol eiddo'r cyflogwr e.e. adeiladau, ffitiadau a chyfarpar a phob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio a dewis, hyfforddi, trosglwyddo, datblygu gyrfa a chadw staff. Os bydd unigolyn anabl yn credu bod cyflogwr wedi gwahaniaethu yn ei erbyn, gall cyflwyno cais am iawndal i Dribiwnlys Cyflogaeth. Fel arall, gall geisio datrys y mater trwy broses gymodi corff fel ACAS.
Gwahaniaethu yn erbyn eich gweithwyr cyflogedig
Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn gweithiwr anabl oherwydd ei anabledd:
- yn ei amodau a thelerau cyflogaeth
- mewn cyfleoedd dyrchafu, trosglwyddo, hyfforddiant neu fuddiannau eraill a/neu drwy wrthod y cyfleoedd hyn
- trwy ei ddiswyddo'n annheg
- trwy ei drin yn llai ffafriol na gweithwyr eraill.
Dyma enghreifftiau o addasiadau rhesymol mewn perthynas â recriwtio a chyflogaeth a roddir yn y Ddeddf (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol):
- gwneud addasiadau i adeiladau
- ailddyrannu rhan o swydd i weithiwr cyflogedig arall
- trosglwyddo'r unigolyn anabl i lenwi swydd wag
- newid oriau gwaith yr unigolyn
- symud yr unigolyn i leoliad gwaith arall
- caniatáu i weithwyr cyflogedig fod yn absennol yn ystod oriau gwaith ar gyfer adsefydlu, asesiad neu driniaeth
- darparu hyfforddiant ychwanegol
- caffael cyfarpar arbennig neu addasu cyfarpar cyfredol
- addasu cyfarwyddiadau neu lawlyfrau cyfeirio
- addasu gweithdrefnau profi neu asesu
- darparu darllenydd neu gyfieithydd
- darparu goruchwylio ychwanegol
Pryd mae'n rhesymol i mi wneud addasiad?
Mae'r DGSA yn rhestru nifer o ffactorau a all helpu i bennu a yw'n rhesymol i'r cyflogwr orfod gwneud addasiad penodol. Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys:
- pa mor effeithiol yw'r addasiad o ran lleihau'r anfantais
- pa mor ymarferol yw'r addasiad
- costau ariannol a chostau eraill yr addasiad a pha mor helaeth yw unrhyw ymyrraeth a achosir
- pa mor helaeth yw adnoddau ariannol ac adnoddau eraill y cyflogwr
- y cymorth ariannol a chymorth arall sydd ar gael i'r cyflogwr i'w helpu i wneud yr addasiad.
Yr achos dros gyflogi pobl anabl
Mae llwyddiant economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yn amcanion cysylltiedig, yn hytrach nag amcanion ar wahân. Mae pawb angen y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn. Bydd hyn yn helpu i greu cymdeithas gynhwysol a theg a fydd yn arwain at ffyniant economaidd.
Mae yna resymau busnes da dros gyflogi pobl anabl. Gall y rhan fwyaf o bobl anabl weithio ochr yn ochr â phobl nad ydynt yn anabl heb fawr ddim cymorth arbennig neu ddim o gwbl. Ar gyfer eraill, hwyrach y bydd angen i chi wneud rhyw addasiad i'r amgylchedd gwaith neu'r arferion gwaith. Yn aml, gellir gwneud yr addasiadau hyn yn syml ac yn rhad.
Mae ymchwil wedi dangos yn glir bod yna fanteision i gyflogwyr sy'n cyflogi pobl anabl:
- mae cael pobl anabl yn y pwll recriwtio'n cynnig mwy o ddewis
- mae cyflogwyr wedi gweld bod gweithwyr cyflogedig anabl yn aros yn y swydd am fwy o amser a bod ganddyn nhw ymrwymiad cryf i'r gwaith, yn ogystal â hanes o fod yn brydlon a chyfraddau absenoldeb isel
- ar y cyfan, mae cadw gweithiwr cyflogedig sy'n mynd yn sâl neu'n anabl yn y gwaith yn costio llai na gorfod recriwtio a hyfforddi rhywun newydd
- gall cyflogi pobl anabl helpu i gynyddu nifer y cwsmeriaid anabl sy'n defnyddio gwasanaeth busnes a gwella morâl staff am y bydd cwsmeriaid yn ystyried bod y sefydliad yn fwy cynrychiadol ac amrywiol
- yn aml, gall yr addasiadau a wneir i helpu gweithiwr cyflogedig anabl fod o fudd i gwsmeriaid a gweithwyr cyflogedig eraill.
Wrth gwrs, mae cyflogwyr yn chwilio am yr unigolyn gorau i gyflawni'r swydd. Nid yw'r DGSA yn ymyrryd â hyn. Bydd cydymffurfio â'r DGSA yn sicrhau nad ydych chi'n gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr cyflogedig ar sail anabledd ac yn cyflogi'r unigolyn gorau i gyflawni'r swydd. Bydd hefyd yn eich helpu i feithrin cysylltiadau da gyda'ch gweithwyr cyflogedig trwy ddangos eich bod yn cynnig cyflogaeth ar delerau cyfartal i bob gweithiwr cyflogedig, waeth a oes ganddo anabledd neu beidio.
Mae mabwysiadu arfer da a chydymffurfio â dyletswyddau a gofynion y DGSA yn lleihau'r risg o ymgyfreitha drud a chyhoeddusrwydd gwael. Gallai methu â gwneud hynny olygu y bydd rhaid i chi ymddangos gerbron tribiwnlys cyflogaeth.
Mynediad i’r Gwaith
Cynllun cyllid y Llywodraeth yw’r rhaglen Mynediad i’r Gwaith dan nawdd Canolfan Gwaith a Mwy. Mae’n darparu cymorth ariannol tuag at y costau ychwanegol wrth gyflogi rhywun sydd ag anabledd. Mae ar gael i’r di-waith, y cyflogedig a phobl hunangyflogedig a gall fod yn gymwys i unrhyw swydd lawn-amser neu ran-amser, barhaol neu dros dro.
Mae’r math o gymorth sydd ar gael yn cynnwys
- cyfathrebwr mewn cyfweliad swydd ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw
- darllenydd yn y gwaith ar gyfer rhywun sy’n ddall neu sydd â nam ar ei l(l)ygaid
- gweithiwr cefnogi os bydd angen help ymarferol ar rywun oherwydd ei (h)anabledd, naill ai yn y gwaith neu wrth fynd i’r gwaith
- addasiadau i gerbyd, neu help tuag at dalu tacsi neu gostau teithio eraill os na all rhywun ddefnyddio cludiant cyhoeddus i fynd i’r gwaith oherwydd ei (h)anabledd
- offer (neu newidiadau i offer sydd eisoes ar gael) sy’n angenrheidiol oherwydd anabledd rhywun
- newidiadau i adeiladau neu amgylchedd y gwaith oherwydd anabledd rhywun.
Mae’r cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar statws cyflogi’r unigolyn ag anabledd adeg y cais.
- pobl ddi-waith sy’n dechrau swydd a phob un sy’n hunangyflogedig
- bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig
- pobl sy’n newid swyddi
- bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig
- pobl gyflogedig sydd gyda chyflogwr ers chwe wythnos neu’n hirach
- ni fydd Mynediad i’r Gwaith yn cyfrannu o gwbl at gostau sy’n llai na £300. Uwchlaw’r swm hwn, bydd y rhaglen yn talu hyd at 80% o’r costau hyd at £10,000 a hyd at 100% o’r costau uwchlaw £10,000
- teithio i’r gwaith
- bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi
- cymorth cyfathrebwr mewn cyfweliad
- bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi
- gweithiwr cefnogi
- bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi
Mae cyllid Mynediad i’r Gwaith i’w gael am hyd at dair blynedd. Adolygir amgylchiadau ac anghenion cefnogi’r unigolyn os bydd angen cyllid pellach ar ôl yr amser hwn.
Gwybodaeth Bellach
Gweinyddir rhaglen Mynediad i’r Gwaith gan Ganolfan Gwaith a Mwy. www.jobcentreplus.gov.uk/cms.asp?Page=/Home/Customers/HelpForDisabledPeople/AccesstoWork
Sylwer: nid yw cyllid Mynediad i’r Gwaith ar gael yn adolygol. Ni fydd yn ad-dalu unrhyw daliadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod tuag at addasiadau rhesymol
Cyfrifoldebau cyflogwy
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon. Dylid ymgorffori'r cyfrifoldeb hwn mewn polisïau ac arferion recriwtio, dewis, hyfforddi, diswyddo a dileu swydd. Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, mae polisi cyfle cyfartal ysgrifenedig yn dangos ymrwymiad i ddatblygu arferion personél anwahaniaethol.
Adnoddau
Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
- Directgov
- amrywiaeth eang o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd ag «Anabledd».
- Comisiwn Hawliau Anableddau
- Corff annibynnol sy’n gweithio tuag at ddileu anffafriaeth yn erbyn pobl sydd ag anabledd.
- Diversity Milkround
- Yn anelu at hyrwyddo ymwybyddiaeth o ystyriaethau ynglyn ag amrywiaeth yn y gweithle. Mae’r wefan hefyd yn cynnig toreth o wybodaeth a chyngor wedi’u trefnu mewn chwe adran i’r rheini sy’n chwilio am swyddi a chyflogeion.
- Arferion da wrth ysgrifennu geirdâu dros bobl sydd ag anableddau
- Cymdeithas y Proffesiynolwyr ag Anableddau.
- Fforwm Cyflogwyr ar Oedran
- Llawer o wybodaeth, gan gynnwys enghraifft o ffurflen ddiragfarn.
- Scope
- Mae gan Scope wybodaeth gynhwysfawr i gyflogwyr.
- Ymddiriedolaeth Shaw
- Elusen genedlaethol sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sydd o dan anfantais yn y gweithle oherwydd anabledd, afiechyd neu amgylchiadau cymdeithasol eraill.
Rhoi nod tudalen gyda: