Yn ôl Mind, bydd un ym mhob pedwar o bobl yn dioddef o broblem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau. Mewn rhai achosion, cyflwr dros dro sydd dan sylw a fydd yn gwella’n gyfan gwbl. Bydd pobl eraill yn dysgu rheoli eu cyflwr ond mae’n aros gyda nhw.
Ceir llawer iawn o wahanol fathau o ofid meddwl y bydd pobl yn eu profi. Ni fydd yn effeithio ar ddau unigolyn yn yr un ffordd. Y problemau mwyaf cyffredin yw iselder, pryder, pyliau panig, anhwylder obsesiynol-cymhellol, ffobiau, iselder gorffwyll a sgitsoffrenia. Gellir cael hyd i fanylion am gyflyrau penodol ar wefan Mind.
Mae rhywun sydd wedi ymgymryd â chwrs Addysg Uwch yn debygol o fod â digon o reolaeth ar eu symptomau i fedru perfformio'n foddhaol yn y gweithle. Mewn gwirionedd, maent yn debygol o ddangos lefelau uwch o ran penderfyniad a chymhelliad.
Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gallwch am oblygiadau'r cyflwr a ble mae cryfderau a gwendidau'r ymgeisydd i'w cael - disgwylir hyn a gall eich helpu i ddeall unrhyw addasiadau y gall fod angen i chi eu gwneud ar gyfer yr unigolyn dan sylw. (Gellwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu llythyr meddygol byr yn nodi'r diagnosis a chan roi esboniad byr o'r ffyrdd y mae'n debygol o effeithio arnynt). Unigolion yw pawb, felly mae'n bwysig gweithio gyda'r unigolyn i gynnig atebion addas i bob sefyllfa.
Gyda llawer iawn o broblemau iechyd meddwl, ni fydd angen gwneud unrhyw addasiadau i'r amgylchedd gwaith. Fodd bynnag, mae cymorth ariannol ar gael i gyflogwyr tuag at unrhyw gostau ar gyfer addasiadau rhesymol trwy'r cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Ganolfan Byd Gwaith.
Rhoi nod tudalen gyda: