Testun yn unig

Sglerosis Ymledol (MS)

Diffiniadau

Sglerosis Ymledol

Mae Ffederasiwn Rhyngwladol Sglerosis Ymledol yn disgrifio sglerosis ymledol fel niwed i’r myelin - gwain amddiffynnol sy’n amgylchynu ffeibrau nerfol y system nerfol ganolog. Pan yw niwed yn digwydd i’r myelin, y mae hyn yn ymyrryd â negeseuon rhwng yr ymennydd a rhannau eraill o’r corff.

Mae oddeutu 1 o bob 600 o bobl yn y DU wedi derbyn diagnosis sy’n dangos bod sglerosis ymledol arnynt. Mae’r symptomau’n amrywio’n fawr gan gynnwys golwg niwlog, aelodau gwan, teimladau o gosi, ansadrwydd a blinder mawr. Fel arfer, daw’r symptomau i’r amlwg mewn oedolion ifanc (rhwng 20 a 40 oed) er efallai na wneir diagnosis pendant am flynyddoedd lawer.

Mae sawl gwahanol fath o MS gyda gwahanol batrymau i’r clefyd. O’r mathau hyn, bydd gan 1 o bob 5 y ffurf ddiniwed gydag ymosodiadau ysgafn heb anabledd parhaol, tra bydd gan 15% arall afiechyd cynyddol sy’n gwaethygu’n raddol.

Pethau i’w Hystyried

Mae unigolion sydd wedi gallu ymgymryd â chwrs Addysg Uwch yn debygol o fod â digon o reolaeth dros eu symptomau i fedru cyflawni'n foddhaol yn y gweithle. Mewn gwirionedd, maent yn debygol o ddangos lefelau uwch o benderfyniad a chymhelliant.

Mae'n bwysig eich bod yn canfod cymaint ag a allwch am oblygiadau'r cyflwr a hefyd beth yw cryfderau a gwendidau'r ymgeisydd - bydd hyn yn ddisgwyliedig a gall eich helpu i ddeall unrhyw addasiad y bydd rhaid i chi ei wneud o bosibl ar gyfer yr unigolyn arbennig hwnnw. Gallech ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno llythyr meddygol byr sy'n amlinellu eu diagnosis ac sy'n rhoi eglurhad byr o'r ffyrdd y mae'n debygol o effeithio arnynt. Mae pob un yn unigolyn, felly mae'n bwysig cydweithio â'r person er mwyn gallu cynnig atebion priodol ar gyfer pob sefyllfa.

Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau rhesymol oddi wrth y cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Canolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i wneud newidiadau corfforol i adeiladau er mwyn cael gwared â rhwystrau a allai wynebu weithwyr â symudedd cyfyngedig.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Cymdeithas Sglerosis Ymledol
Elusen Brydeinig sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth am sglerosis ymledol gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth.
Canolfan Adnoddau Sglerosis Ymledol
Mae’n cynnwys ystod o wybodaeth am sglerosis ymledol gan gynnwys byrddau negeseuon ac ystafelloedd sgwrsio.
Ffederasiwn Rhyngwladol Sglerosis Ymledol
Gwefan ryngwladol, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wledydd penodol.

Rhoi nod tudalen gyda: