Testun yn unig

Parlys

Diffiniadau

Parlys

Parlys yw colli’r pwer i symud rhan o’r corff oherwydd anaf neu afiechyd. Mae difrifoldeb y parlys yn amrywio o unigolyn i unigolyn, a defnyddir gwahanol dermau meddygol i ddisgrifio pa aelodau sy’n cael eu heffeithio gan barlys ac i ba raddau y mae’r gallu i symud yn cael ei golli. Mae “plegaidd” ar ddiwedd gair yn dynodi colli pwer tra bod “para” yn cyfeirio at wanychu sylweddol yn y cyhyrau yr effeithir arnynt.

Bydd goblygiadau parlys yn amrywio o’r naill unigolyn i’r llall. Mewn rhai achosion, mae’r parlys yn arwain at broblemau symud o gwmpas, mewn achosion eraill (gyda pharlys yn y rhan uchaf o’r corff), mae gwahanol atebion technegol i'w cael i oresgyn y problemau a all fodoli yn y gweithle.

Pethau i’w hystyried

Mae'n debyg y bydd myfyriwr sydd wedi gallu mynd drwy gwrs Addysg Uwch yn gallu rheoli ei symptomau'n ddigon da i allu perfformio'n iawn yn y byd gwaith. Yn wir, maent yn debygol o fod yn fwy penderfynol ac awyddus i wneud y gwaith.

Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gellwch ynghylch oblygiadau'r syndrom ar yr unigolyn, a beth yw eu cryfderau a'u gwendidau. Disgwylir hyn a bydd yn eich helpu i ddeall pa addasiadau y bydd angen i chi ei wneud efallai ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw. Gallech ofyn i'r ymgeisydd roi llythyr meddygol byr i chi sy'n nodi eu diagnosis ac sy'n esbonio'n gryno'r ffyrdd y mae'n debygol o effeithio arnynt. Mae pawb yn unigolyn, felly mae'n bwysig cydweithio gyda'r person i ddod o hyd i ateb addas ar gyfer pob sefyllfa.

Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau rhesymol oddi wrth y cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Canolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i wneud newidiadau corfforol i adeiladau er mwyn cael gwared â rhwystrau a allai wynebu weithwyr â symudedd cyfyngedig.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
British Brain and Spine Foundation
Mae taflen am barlys ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan y BBSF.

Rhoi nod tudalen gyda: