Mae nifer o gyflyrau sy'n gallu arwain at fod yn gyfyngedig wrth symud o gwmpas, ond ym mhob achos, mae gallu'r unigolyn i symud o gwmpas heb gymorth yn cael ei leihau. Mewn rhai achosion gall hyn fod yn sefyllfa dros dro, i bobl eraill, agwedd barhaol ar eu bywydau yw hi.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf sylwyd ar y rhwystrau ffisegol sy'n bodoli i bobl sy'n gyfyngedig wrth symud o gwmpas, ac o ganlyniad i'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae rampiau, lifftiau cadair olwyn a nodweddion eraill i hwyluso mynediad/hygyrchedd yn disodli llawer iawn o'r rhwystrau hyn.
Mae'n debyg y bydd myfyriwr sydd wedi gallu mynd drwy gwrs Addysg Uwch yn gallu rheoli ei symptomau'n ddigon da i allu perfformio'n iawn yn y byd gwaith. Yn wir, maent yn debygol o fod yn fwy penderfynol ac awyddus i wneud y gwaith.
Cofiwch ddarganfod cymaint ag y gellwch ynghylch oblygiadau'r syndrom ar yr unigolyn, a beth yw eu cryfderau a'u gwendidau. Disgwylir hyn a bydd yn eich helpu i ddeall pa addasiadau y bydd angen i chi ei wneud efallai ar gyfer yr unigolyn penodol hwnnw. Gallech ofyn i'r ymgeisydd roi llythyr meddygol byr i chi sy'n nodi eu diagnosis ac sy'n esbonio'n gryno'r ffyrdd y mae'n debygol o effeithio arnynt. Mae pawb yn unigolyn, felly mae'n bwysig cydweithio gyda'r person i ddod o hyd i ateb addas ar gyfer pob sefyllfa.
Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau rhesymol oddi wrth y cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Canolfan Byd Gwaith. Gall y cynllun Mynediad at Waith hefyd ddarparu grantiau i wneud newidiadau corfforol i adeiladau er mwyn cael gwared â rhwystrau a allai wynebu weithwyr â symudedd cyfyngedig.
Rhoi nod tudalen gyda: