Yn ôl Afasic, mae gan un ymhob 500 o blant anhwylder llefaru neu iaith sy'n aros gyda nhw tan eu bod yn oedolion. Mae'r term hwn yn cynnwys amrywiaeth o namau ar eu lleferydd (gan gynnwys symptomau cyflyrau eraill) sy'n amharu naill ai o ran deall a phrosesu iaith neu wrth lefaru.
Yr anhwylder llefaru mwyaf cyffredin yw atal dweud, sy'n effeithio tua 1% o boblogaeth oedolion y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir lleihau difrifoldeb yr atal â therapi lleferydd, ond ni ellir ei wella'n llwyr.
Oni bai bod yr anhwylder yn cael ei achosi gan anabledd arall, nid oes unrhyw gysylltiad rhwng anhwylderau llefaru ac iaith a gallu deallusol. Gall atal dweud (deilen ar y tafod) arafu lleferydd, ond bydd yr unigolyn yn meddwl ar gyflymdra “arferol”.
Mae rhywun sydd wedi ymgymryd â chwrs Addysg Uwch yn debygol o fod â digon o reolaeth ar eu symptomau i fedru perfformio'n foddhaol yn y gweithle. Mewn gwirionedd, maent yn debygol o ddangos lefelau uwch o ran penderfyniad a chymhelliad.
Cofiwch ddysgu cymaint ag y gallwch am oblygiadau'r cyflwr a ble mae cryfderau a gwendidau'r ymgeisydd i'w cael - disgwylir hyn a gall eich helpu i ddeall unrhyw addasiadau y gall fod angen i chi eu gwneud ar gyfer yr unigolyn dan sylw. Unigolion yw pawb, felly mae'n bwysig gweithio gyda'r unigolyn i gynnig atebion addas i bob sefyllfa.
Efallai y gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau addasiadau rhesymol oddi wrth y cynllun Mynediad at Waith a weithredir gan Canolfan Byd Gwaith.
Rhoi nod tudalen gyda: