Testun yn unig

Nam ar y Golwg

Diffiniadau

Nam ar y Golwg

Yn ôl y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol i'r Deillion (RNIB), mae dros filiwn o bobl yn y DU wedi'u cofrestru'n ddall neu sy'n gallu gweld yn rhannol. Mae rhai heb fawr neu ddim golwg ers eu geni; rhai eraill o ganlyniad i ddamwain ac mae eraill yn colli'u golwg o ganlyniad i gyflwr meddygol.

Nid yw nam ar y golwg o anghenraid yn golygu dallineb llwyr. Gall pedwar deg naw y cant o bobl ddeillion ac wyth deg y cant o bobl sy'n gweld yn rhannol adnabod cyfaill o hyd braich. Fodd bynnag, mae'r cyflwr yn golygu ei bod yn debygol y bydd angen gwneud rhyw fath o addasiadau yn y gweithle.

Yn gynyddol, mae datblygiadau technegol yn symud rhai o'r rhwystrau a oedd yno gynt i bobl sydd â nam ar eu golwg.

Pethau i'w hystyried

Mae faint o olwg sydd gan rywun sy'n gweld yn rhannol yn amrywio o'r naill unigolyn i'r llall, gall naill ai fod yn sefydlog neu'n debygol o newid dros amser.

Ceir amrywiaeth o addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg, o ddarparu fersiynau print bras o ddogfennau i atebion sy'n fwy technegol megis darllenwyr sgrîn ac argraffyddion braille. Mae gan yr RNIB wybodaeth dda am y gwahanol addasiadau technegol sydd ar gael. Mewn ambell achos, efallai y bydd angen gwneud addasiadau ffisegol i adeilad. Gall y rhan fwyaf o addasiadau gael eu hariannu gan y cynllun Mynediad at Waith, a weinyddir gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae rhagor o fanylion yn yr adran Adnoddau Ychwanegol.

Efallai y bydd angen i chi gynnig deunyddiau recriwtio mewn braille neu sain. Unwaith eto, mae gan yr RNIB wybodaeth am y broses recriwtio i bobl sy'n gweld yn rhannol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
RNIB
Mae gwefan yr RNIB yn cynnwys gwybodaeth am sawl agwedd ar gyflogi pobl rhannol ddall, gan gynnwys recriwtio a chadw, a manylion addasiadau rhesymol.
Action for Blind People
Gan gynnwys cefnogaeth datblygu cyflogi ymarferol i bobl sydd â nam ar eu golwg a gwybodaeth am ddewisiadau hunangyflogedig.
Blind in Business
Gwefan sy'n canolbwyntio ar ddarparu cyngor ymarferol i raddedigion sydd â nam ar eu golwg a chyflogwyr.
Techdis
Mae'r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata helaeth o atebion trwy dechnoleg addas ar gyfer amrywiaeth o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: