Safbwynt y Cyflogwr
Mae’r eirfa sydd ar gael er mwyn trafod materion sy’n ymwneud â hil ac ethnigrwydd yn aml yn peri cryn ddadlau, a chan hynny, yn tueddu i fod yn aneglur ac annigonol.
Gall yr un gair olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Felly, gall term sy’n ddi-ddadl ac yn bositif i un person fod yn amheus ac yn wrthyn i berson arall. Ar ben hynny, ceir yn fynych bryderon am gywirdeb gwleidyddol.
Ymhellach, y mae ystyron a goblygiadau geiriau yn newid dros gyfnod o amser. Er enghraifft, ar un adeg, ystyrid ‘lliw’ yn dderbyniol a ‘du’ yn dramgwyddus. Heddiw, fel arall y mae hi. Mae ‘du’ yn gwbl dderbyniol ac yn derm a ffafrir ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o dras Affricanaidd neu Garibïaidd. Fodd bynnag, nid yw ‘lliw’ bellach yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun.
Mae’n bwysig nodi bod y ffurflen Cyfle Cyfartal, a anfonir gyda phecyn cais yn aml, i’w defnyddio at bwrpasau monitro yn unig ac nad yw’n cael ei defnyddio fel rhan o’r proses dewis.
Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (1976) yn gwneud gwahaniaethu ar sail hil, lliw, cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), neu darddiad ethnig neu genedlaethol, yn anghyfreithlon. Mae’n amddiffyn pobl o bob grwp ethnig, gan gynnwys pobl wynion. Felly, y mae gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu bod, er enghraifft, yn Gymraeg, Ffrangeg neu’n meddu ar acen Albanaidd, yn anghyfreithlon. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu cyflogaeth gan gynnwys hysbysebu, dewis a recriwtio.
Nid yw anffafriaeth hiliol yr un fath â rhagfarn hiliol – mae’r Ddeddf yn ymdrin â gweithredoedd a chanlyniadau gweithredoedd, yn hytrach na barnau neu gredoau pobl. Felly, nid oes raid profi bod rhywun wedi bwriadu gwahaniaethu yn eich erbyn – y mae angen i chi ddangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol o ganlyniad i’r hynny a wnaethant.
Mae Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) yn gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred mewn gweithleoedd drwy Brydain benbaladr. Maent yn cwmpasu pob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, tâl ac amodau gwaith, a diswyddo.
Mae’r gyfraith yn gwarchod pobl rhag anffafriaeth ar sail crefydd neu gred mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Nid yw’n caniatáu:
Mae’r gyfraith hefyd yn ymdrin â chanfyddiadau o grefydd neu gred. Felly, y mae’n gwarchod pobl y rhagdybir – yn gam neu’n gymwys – fod ganddynt grefydd neu gred arbennig.
Ceir tystiolaeth o newid yn y modd y canfyddir ac y gwerthfawrogir cyflogedigion lleiafrif-ethnig gan gyflogwyr. Mae cyflogwyr yn dechrau gwerthfawrogi manteision cael gweithlu amrywiol, ac y mae busnesau yn sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os ydynt yn adlewyrchu’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
Mae sawl ffordd o ddangos eich bod yn gyflogwr sy’n dymuno denu unigolion talentog ni waeth beth fo’u cefndir neu ethnigrwydd. Er enghraifft:
Ceir ffeiriau arbenigol ar gyfer myfyrwyr a graddedigion o leiafrifoedd ethnig. Mae cyflogwyr sy’n mynychu y rhain yn dangos eu bod yn awyddus i ddenu lleiafrifoedd ethnig talentog i’w cwmni.
Monitro Anffafriaeth Hiliol Posibl
Mewn cwmnïau mawr a chanolig eu maint, dylid cynnal archwiliad er mwyn sicrhau bod y polisi cyfle cyfartal mewn perthynas â hil yn effeithiol. Gellir archwilio’r canlynol:
Ar sail y data yma, dylai fod yn eglur os yw rhai grwpiau hiliol yn cael eu anffafrio, a dichon y bydd angen astudiaeth bellach er mwyn sefydlu pa un ai yw hyn yn wir ai peidio, a pha un ai y gellir unioni pethau.
Gweithredu Positif
Ni chaniateir i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail hil (neu ryw) pan yn dewis ymgeisydd ar gyfer swydd, ond y mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i gamau gael eu cymryd i annog aelodau o grwpiau nad sydd wedi eu cynrychioli’n ddigonol i fanteisio ar gyfleoedd. Serch hynny, ni ddylid cymysgu gweithredu positif cyfreithlon gyda gwahaniaethu positif, sy’n anghyfreithlon.
Cyfrifoldebau Cyflogwyr
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i atal anffafriaeth anghyfreithlon. Dylai’r cyfrifoldeb hwn fod yn berthnasol i recriwtio dewis, hyfforddi a dyrchafu cyflogedigion, yn ogystal ag i bolisïau ac arferion diswyddo. Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol, y mae polisi cyfle cyfartal ysgrifenedig yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad arferion personél nad sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl.
Rhoi nod tudalen gyda: