Safbwynt y Cyflogwr
O dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr, y mae’n rhaid datgan pob euogfarn ar gyfer rhai galwedigaethau, heb ystyried pa un ai ydynt wedi eu dirymu (spent) o dan delerau’r Ddeddf ai peidio. Dylai ffurflen gais am swydd sydd wedi ei heithrio o’r Ddeddf wneud y pwynt yma yn gwbl glir.
Amcangyfrifwyd bod pumed ran o’r boblogaeth sy’n gweithio yn meddu ar gofnod troseddol – y mae hyn yn gyfran sylweddol o’r gweithlu dichonol. Mae cael swydd yn rhan bwysig o ailsefydlu unigolion yn llwyddiannus. Cydnabyddir bod methiant i gael gwaith cyflogedig yn un o’r prif resymau dros ail-droseddu, ond gall trosedd beri i gyflogwyr ymwrthod ag ymgeiswyr. Serch hynny, y mae mwyafrif llethol y cyn-droseddwyr sy’n gweithio yn gymwys ac yn ddibynadwy, ac nid ydynt yn fygythiad i’w cydweithwyr, i’w cwsmeriaid, nac i’r busnesau y maent yn gweithio iddynt.
Yn y gorffennol, nid oedd gofyn am ddatgelu euogfarnau yn rhan o arferion recriwtio llawer o gwmnïau. Fodd bynnag, y mae cyflwyno Datgeliadau Safonol ac Uwch wedi peri bod mwy o gyflogwyr yn holi ynghylch cofnodion troseddol. Pan ddaw’r gwiriad Datgeliad Sylfaenol i rym (annhebygol o ddigwydd cyn 2005), bydd cynnydd enfawr yn nifer y cyflogwyr a fydd yn gofyn am y cyfryw gofnodion.
Nid yw denu a dewis cyflogwyr fyth heb ei beryglon. Mae gwneud penderfyniad cywir yn dibynnu ar ddadansoddiad gofalus o’r wybodaeth ffeithiol yn erbyn manylion swydd a phersonol sydd wedi eu paratoi’n drylwyr ac yn rhydd o fias.
Mae rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud ag euogfarnau troseddol yn gofyn am ymarfer synnwyr cyffredin mewn modd gwrthrychol ac sy’n rhoi ystyriaeth i:
Byddwch yn ymwybodol o beryglon rhagfarnau personol sy’n medru cael effaith ar arfer da. Ystyriwch fanteision hyfforddiant pellach.
Mae asesu’r risg o gyflogi person gyda chofnod troseddol yn golygu cymharu sgiliau a phrofiad ymgeisydd ynghyd ag amgylchiadau ei euogfarn yn erbyn meini prawf risg yr ydych chi wedi eu nodi ar gyfer y swydd. Er enghraifft, byddai rhai troseddau treisgar yn berthnasol i swyddi lle nad yw cysylltiad â’r cyhoedd yn cael ei arolygu. Byddai troseddau rhywiol bron yn sicr o rwystro rhywun rhag gweithio gyda phlant. Fodd bynnag, y mae’n bwysig cofio nad yw pob trosedd yr un fath.
Os yw ymgeiswyr wedi datgelu hanes troseddol, gwnewch yn siwr eich bod yn trafod natur eu heuogfarn mewn cyfweliad.
Ystyriwch yr achos dros ddatblygu polisïau cyflogaeth ar gyfer cyn-droseddwyr. Bydd hyn yn sicrhau na fydd ymgeiswyr addas yn cael eu hepgor o’ch cwmni.
Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu i euogfarnau troseddol gael eu hanwybyddu neu eu hystyried fel rhai sydd wedi eu dirymu ar ôl cyfnod ailsefydlu. Nid oes raid datgan y fath euogfarn ac ni all fod yn rheswm dilys dros ddiswyddo neu drin rhywun yn anffafriol yn y gwaith. Ar ôl i’r cyfnod ailsefydlu ddirwyn i ben, nid oes raid i gyn-droseddwr grybwyll euogfarn pan yn ceisio am swydd. Os y gofynnir i unigolyn am euogfarnau blaenorol, gall ef/hi ddweud ‘na’ os yw’r euogfarnau bellach yn ddi-rym ac os nad yw’r swydd y ceisir amdani wedi ei heithrio o’r Ddeddf. Yn gyffredinol, y cyfnod ailsefydlu ar gyfer dedfryd o hyd at chwe mis yw saith mlynedd, ac ar gyfer dedfryd o rhwng chwe mis a dwy flynedd a hanner, y mae’r cyfnod yn ddeng mlynedd.
Nid yw unrhyw drosedd sy’n dwyn dedfryd o ragor na dwy flynedd a hanner mewn carchar fyth yn cael ei ddirymu. Mae rhai galwedigaethau yn mynnu bod pob euogfarn yn cael ei datgan, heb ystyried pa un ai ydyw wedi ei dirymu o dan delerau’r Ddeddf a’i peidio. Bydd pobl a chanddynt euogfarnau yn dal i fedru ymgeisio am swyddi yn y meysydd hyn, ond bydd cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth droseddol, ac ni fydd rhai meysydd cyflogaeth yn agored i unigolion gyda rhai mathau o euogfarnau. Yn gyffredinol, y mae’r galwedigaethau canlynol wedi eu heithrio o’r Ddeddf:
Rhan 5 o Ddeddf yr Heddlu:
Mae unrhyw un sydd angen cyflawni gwiriadau ‘Datgeliad Safonol neu Uwch’ yn gorfod dod yn gorff cofrestredig gyda’r Criminal Records Bureau. Fel dewis arall, gallant wneud archwiliadau drwy gorff cyd-drefnol cofrestredig. Mae cyrff cofrestredig yn gorfod cydymffurfio â chôd ymarfer llym.
Mae’r ‘Datgeliad Safonol’ yn berthnasol i swyddi sydd wedi eu heithrio o’r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr. Mae’r Datgeliad yn dangos euogfarnau sydd mewn grym ac wedi eu dirymu yn ogystal â rhybuddion, ceryddon a rhybuddio terfynol a gedwir ar gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu. Os nad oes cofnod troseddol, y mae’n dweud hynny. Mae’r Datganiad yn cael ei anfon i’r ymgeisydd, a chopi ohono yn cael ei anfon i’r cyflogwr neu gorff arall a gofrestrwyd i dderbyn yr wybodaeth hon.
Mae’r ‘Datgeliad Uwch’ yn berthnasol i swyddi sy’n ymwneud â gofalu am, hyfforddi, goruchwylio neu fod yr unig un sy’n gofalu am blant neu oedolion sy’n agored i niwed. Mae hefyd yn berthnasol i feddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr. Mae’r Datgeliad yn dangos yr un manylion â Datgeliad Safonol ac, ambell waith, gall hefyd ddangos gwybodaeth nad sy’n ymwneud ag euogfarn o gofnodion heddlu lleol – gwybodaeth y tyb prif heddwas ei fod yn berthnasol i fath arbennig o waith. Mae hefyd yn dweud os nad oes cofnod yn bodoli.
Rhoi nod tudalen gyda: