CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – PENNU RHYWEDD
Safbwynt y Cyflogwr
Diffiniadau
- Rhywedd
- Mynegir rhywedd mewn termau gwrywdod a benyweidd-dra. I raddau helaeth fe'i pennir yn ddiwylliannol ac mae'n effeithio ar sut y bydd pobl yn eu gweld eu hunain a sut y maent yn disgwyl i bobl eraill ymddwyn.
- Hunaniaeth Ryweddol
- Hunaniaeth ryweddol yw'r rhywedd y mae rhywun yn teimlo ei f/bod yn perthyn iddo. Canfyddiad a phrofiad mewnol yr unigolyn o'u rhywedd ydyw. Mae gan rai pobl hunaniaeth ryweddol nad yw'n union wrywaidd nac yn union fenywaidd.
- Swyddogaeth Ryweddol
- Swyddogaeth ryweddol yw'r ffordd y bydd rhywun yn byw ac yn rhyngweithio â phobl eraill ar sail eu hunaniaeth ryweddol. Mae'n werth nodi i ddibenion cyfreithlon na all rhywun fod ond yn wrywaidd neu'n fenywaidd.
- Dysfforia Rhyweddol
- Mae dysfforia rhyweddol yn gyflwr meddygol cydnabyddedig. Mae'r unigolyn yn dioddef pryder, ansicrwydd neu deimladau anghysurus drwy'r adeg ynglyn â'u rhywedd enedigol. Gallant deimlo bod eu hunaniaeth ryweddol yn wahanol i'w rhyw anatomegol. Gall hyn arwain at bryderon am fynegi'u teimladau ac ofn cael eu gwrthod a all arwain at bryder dwys ac, o bosibl, at iselder cronig. Gall rhywun sydd â dysfforia rhyweddol ymgymryd â hunaniaeth yn y rhyw cyferbyniol. Gall hyn olygu triniaeth hormonau neu weithiau lawfeddygol i newid eu rhyw'n gorfforol. Fodd bynnag, nid oes raid wrth lawfeddygaeth cyn y ceir drawsrywioldeb neu cyn cael eich cydnabod yn y rhywedd gaffael (acquired gender).
- Trawsrywedd
- Mae trawsrywedd yn derm a ddefnyddir i gynnwys trawsrywolion a thrawswisgwyr a chroeswisgwyr. Gall trawsryweddolion hefyd fod yn bobl sy'n trawsnewid - weithiau gyda chymorth llawfeddygaeth/neu driniaeth hormonau - i fyw yn ôl y swyddogaeth ryweddol o'u dewis.
- Tystysgrif Gydnabod Rhywedd
- O dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, mae rhywun sy'n dal Tystysgrif Gydnabod Rhywedd lawn, yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol yn y rhywedd gaffael at bob pwrpas. Felly, mae'r person dan sylw'n perthyn i'r rhyw arall mewn cyd-destun cyfreithiol a chymdeithasol. Rhoddir Tystysgrif i rywun ar yr amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf a amlinellir yn Neddf Cydnabod Rhywedd 2004. Deddfwriaeth newydd yw hon ac felly bydd yn cymryd ychydig amser nes y rhoddir Tystysgrif i bawb sy'n debygol o dderbyn un. Derbynnir y ceisiadau cyntaf ym mis Ionawr 2005 a chyhoeddir y GRC (Gender Recognition Certiciate) cyntaf ym mis Ebrill 2005. Yn y lle cyntaf, dim ond ceisiadau cynllun carlam a thramor a gwmpesir gan y rhain. Bydd pobl yn gallu cyflwyno cais dan y broses ymgeisio safonol o fis Gorffennaf 2005 ymlaen, gyda'r cyntaf o'r rhain yn cael ei asesu gan y Panel Cydnabod Rhyw ym mis Hydref 2005.
Datgeliad
Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth i gyflogwyr. Fodd bynnag, nes i rywun fod yn gymwys ar gyfer Tystysgrif Cydnabod Rhywedd ac yn ei derbyn, gallai rhai anawsterau godi. Mae hyn yn arbennig o debygol os yw'r swydd y ceisir amdani yn cynnwys car cwmni, yswiriant iechyd neu bensiwn personol - ym mha achos y mae'n rhaid i'r cyflogai ddatgelu'u statws i'r cyflogwr. Fodd bynnag gall pobl drawsrywiol gael dogfennau swyddogol megis trwydded yrru, pasport neu gerdyn Yswiriant Gwladol yn yr enw a'r rhywedd newydd, er yn aros yn gyfreithiol yn y rhyw a gofnodwyd wrth gael eu geni. Oherwydd y ddeddfwriaeth newydd sydd ar fin dod i rym mae'n werth cadw llygad ar yr adran adnoddau ar gyfer y datblygiadau diweddaraf perthnasol.
Materion penodol
Deddfwriaeth
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw
Ers 1995 y mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw wedi bod yn berthnasol i drawsrywolion. Mae diogelu cyfreithiol yn dechrau o'r amser y byddwch yn hysbysu eich bod yn bwriadu ailbennu'ch rhywedd.
Mae'r Ddeddf yn dweud ei bod yn anghyfreithlon i wneud rhyw yn sail i drin unrhyw un yn llai ffafriol na phobl eraill gan wahardd y canlynol:
- Gwahaniaethu ar sail rhywedd
- Gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd
- Gwahaniaethu yn erbyn pobl briod
Mae'n gwahardd gwahaniaethu ac erledigaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol. Gwahaniaethu ar sail rhyw yn uniongyrchol yw pan fydd rhywun yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhywun arall ar sail eu rhyw. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn llai amlwg. Gall ddigwydd pryd y bydd cyflogwr yn gweithredu rhyw ofyniad neu bolisi sy'n ymddangos fel pe na bai a wnelo dim oll â rhywedd, ond sydd, yn ymarferol, yn cael effeithiau sy'n anfanteisiol ar un o'r rhywiau yn unig. Er enghraifft, byddai gofyn i ymgeiswyr fod yn dalach na chwe throedfedd yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn menywod. I'w ystyried yn wahaniaethol, rhaid dangos bod yr amod dan sylw:
- Yn cael ei weithredu i'r un graddau mewn perthynas â'r ddau ryw
- Yn cyfyngu ar ganran y naill ryw sy'n cydymffurfio o'i gymharu â'r llall
- Yn anfanteisiol i unigolyn
- Ni ellir ei gyfiawnhau'n wrthrychol
Mae'r Ddeddf yn cynnwys unrhyw fath o ddethol o ran cyflogi, o recriwtio i ddyrchafiad i swydd newydd gyda'ch cyflogwr presennol neu wrth drosglwyddo i swydd arall. Os bydd cyflogai'n teimlo iddynt gael eu trin yn annheg, gallant gwyno i dribiwnlys o fewn tri mis i'r digwyddiad.
Ceir hefyd Gymwysterau Galwedigaethol Dilys (GGD) sy'n berthnasol i bobl drawsrywiol yn unig mewn rhai mathau o gyflogaeth. Gall hyn effeithio ar y rheini sy'n bwriadu gweithio yn yr heddlu, mewn swydd grefyddol neu nyrsio - os byddwch yn darparu ‘gwasanaethau personol' yn ystod tri mis cyntaf y trawsnewidiad.
Ers mis Hydref 2002, nid yw'r Swyddfa Gofnodion Troseddol bellach yn datgelu hanes meddygol unrhyw ymgeisydd. Felly, os bydd rhywun sy'n ymgymryd â swydd lle y mae gofyn cael cliriad gan y Swyddfa Gofnodion, dylent gysylltu â'r Swyddfa ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn i ddiogelu'u preifatrwydd.
Y Ddeddf Cydnabod Rhywedd
Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn caniatáu cydnabyddiaeth gyfreithiol gyflawn o rywedd newydd unigolyn trawsrywiol ar ôl dwy flynedd. Golyga Tystysgrif Cydnabod Rhywedd a gyhoeddir gan y Panel Cydnabod Rhywedd o dan y ddeddfwriaeth newydd fod y deilydd yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol yn y rhywedd gaffael i bob diben. Felly, mae'r unigolyn dan sylw yn perthyn i'r rhywedd gyferbyniol mewn cyd-destun cyfreithiol a chymdeithasol. Bydd y gyfraith newydd yn darparu preifatrwydd i bobl drawsrywiol. O hyd ceir rhai amgylchiadau cyfyngedig - er enghraifft - cliriad y Swyddfa Gofnodion Troseddol - lle y bydd angen peth datgeliad i gydymffurfio ag anghenion cyfreithiol, ond diogelir y datgeliad hwn rhag datgeliad pellach o dan y gyfraith.
Y Ddeddf Cyflog Cyfartal
Gwna'r Ddeddf Cyflog Cyfartal iddi fod yn anghyfreithlon i gyflogwyr gynnig gwahanol gyflog ac amodau i ddynion a menywod sy'n gwneud yr un gwaith. Os yw'n berthnasol, gall cyflogai wneud hawliad mewn tribiwnlys tra byddant yn dal i fod yn y swydd neu hyd at chwe mis ar ôl iddynt ymadael. Mae holiadur cyflog cyfartal wedi'i gyhoeddi i sefydlu ffeithiau allweddol ar adeg gynnar yn y broses ac i ddatrys anghydfod. Mae'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol hefyd wedi bod o fudd i weithwragedd y mae llawer ohonynt yn cael eu talu'n isel, wrth helpu i gydbwyso'r bwlch cyflog.
Polisïau Cyfleoedd Cyfartal
Ychydig bolisïau cyfleoedd cyfartal sy'n sôn yn benodol am hunaniaeth ryweddol neu ailbennu rhywedd. Trwy drafod materion trawsrywiol a thrawsryweddol yn fanwl, dengys fod cyflogwyr wedi ystyried y materion hyn a'u bod yn ymroddedig i gynyddu amrywiaeth yn eu gweithlu.
Cyfrifoldebau Cyflogwyr
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon. Dylai'r cyfrifoldeb yma fod yn berthnasol i bolisïau ac arferion recriwtio, dewis a dethol, hyfforddi, dyrchafiad, diswyddo ac anghyflogi. Er nad oes gofyn cyfreithiol, dengys polisi cyfleoedd cyfartal ysgrifenedig ymroddiad i ddatblygu arferion personél nad ydynt yn gwahaniaethu.
- Sicrhewch fod gan eich cwmni bolisi cyfleoedd cyfartal gan ei adolygu'n rheolaidd
- Hyfforddwch staff mewn cyfleoedd cyfartal
- Cadwch gofnodion o gyfweliadau sy'n dangos pam bod ymgeiswyr wedi cael eu gwrthod a chadwch gofnodion cyflogi'n hollol gyfredol
- Dylai'r holl gyflogeion posibl a phresennol gael eu barnu ar eu gallu, profiad, addysg ac unrhyw feini prawf eraill sy'n berthnasol i'r swydd
- Sicrhewch fod cwynion yn cael eu hystyried o ddifri, eu hymchwilio'n iawn ac, os oes angen, yr ymdrinnir â hwy
- Archwiliwch y rhestr gyflogi – dylai cyflog adlewyrchu enw swydd y cyflogeion ac nid eu rhyw
- Cynhaliwch arolygon staff i helpu nodi lle y gall gwahaniaethu fodoli oddi mewn i'ch busnes
- Am gyngor di-dâl ar bob mater sy'n ymwneud â chydraddoldeb rhyw, gellwch gysylltu â'r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal
Adnoddau
- ACAS
- Y nod yw gwell cyrff a bywyd gweithiol trwy well cysylltiadau cyflogi.
- Centre for Research in Education and Gender
- Sefydlwyd i ddarparu rhwydwaith i athrawon ac ymchwilwyr sy'n ymwneud â rhywedd, rhywioldeb ac arferion gwrth-rywiaethol.
- Y Swyddfa Gofnodion Troseddol
- Adran Materion Cyfansoddiadol
- Isadran Cydnabod Rhywedd. Ceir siart lif fuddiol i arwain ymgeiswyr trwy'r broses o gydnabod rhywedd.
- Equality Challenge Unit
- Cyrchu'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chysoni/newid/pennu rhyw yn ogystal â gwybodaeth bellach am faterion mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal
- Y brif asiantaeth sy'n gweithio i ddileu gwahaniaethu ar sail rhyw yn y DU.
- FTM Network
- Gwybodaeth ar gyfer pobl drawsryweddol a thrawsrywiol benyw-i-wryw.
- Gendys Network
- Rhwydwaith ar gyfer y rheini sydd wedi dod ar draws problemau hunaniaeth ryweddol.
- Mermaids
- Grŵp cefnogi i blant a phobl yn eu harddegau sydd ag amrywiant rhyweddol gan gynnig cefnogaeth i rieni a gofalwyr.
- NHS Direct
- Dysfforia rhyweddol.
- Gwybodaeth swyddogol ar dribiwnlysoedd cyflogi
- Press for Change
- Corff lobio ac addysgol sy'n ymgyrchu i sicrhau hawliau a rhyddfreiniau sifil cyfartal i bawb sy'n drawsryweddol yn y DU.
- Prospects
- Gwybodaeth am amrywiaeth eang o faterion gyrfa.
- TIGER
- Tailored Interactive Guidance on Employment Rights. Wedi'i gynllunio i ddarparu arweiniad hawdd ei ddefnyddio trwy wahanol agweddau ar gyfraith gyflogi'r DU.
- The Beaumont Society
- Yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o gyflyrau dysfforia rhyweddol yn y gymdeithas gan greu a gwella goddefgarwch a derbyniad i'r cyflyrau hyn.
- The Gender Trust
- Ei chydnabod fel y ganolfan awdurdodaidd ar gyfer proffesiynolwyr sy'n dod ar draws materion sy'n ymwneud â hunaniaeth yn eu gwaith.
- GIRES
- The Gender Identity and Research and Education Society. Yn cynnal ymchwil i ymdrin ag anghenion y rheini sydd ag awydd cryf i fyw yn y rhywedd maent yn uniaethu ag ef, er yn wahanol i'r un a benderfynwyd wrth eu geni.
- Transgender Zone
- Cefnogaeth i bobl drawsrywiol gan gynnwys pob agwedd ar faterion trawsrywiol.
Rhoi nod tudalen gyda: