Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – IECHYD MEDDWL

Safbwynt y Cyflogwr

Diffiniad

Iechyd Meddwl

Gellir diffinio iechyd meddwl fel sut mae person yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu wrth wynebu sefyllfaoedd bywyd. Mae iechyd meddwl yn ymwneud â barn pobl amdanyn nhw eu hunain, am eu bywydau ac am bobl eraill yn eu bywydau. Mae gallu pobl i werthuso heriau a phroblemau ac i ystyried dewisiadau hefyd yn rhan o’r maes, ac mae hyn yn cynnwys ymdopi â straen, cysylltu â phobl eraill a gwneud penderfyniadau. Rydym i gyd yn fodau meddyliol ac yn fodau corfforol. Mae iechyd meddwl, felly, cyn bwysiced ag iechyd corfforol.

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 2005 yn gosod mwy o bwyslais ar broblemau iechyd meddwl. Mae’r ychwanegiadau diweddar at y ddeddf wedi dileu’r rheidrwydd i anhwylderau meddwl gael eu cydnabod yn glinigol. Mae hyn yn ehangu’r diffiniad cyfreithiol o anhwylder iechyd meddwl yn sylweddol. Os yw anhwylder iechyd meddwl yn cael effaith niweidiol fawr a hirdymor ar eich gallu i gyflawni tasgau arferol, mae’n debygol bod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) yn berthnasol i chi. Yn hytrach na rhoi rhestr o anhwylderau perthnasol, mae’r Ddeddf yn ystyried effeithiau’r anhwylder ar unigolyn. Er bod llawer o bobl ag anhwylder iechyd meddwl yn credu nad ydyn nhw’n anabl, mae ganddyn nhw hawliau a gefnogir gan y DDA. Nod y DDA yw dileu gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn nifer o feysydd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth a darparu nwyddau a gwasanaethau.

Mae pobl yn gallu cael eu heffeithio gan ofid meddwl o bob math, ac mae profiadau pawb yn wahanol. Y problemau mwyaf cyffredin yw:

  • iselder ysbryd
  • pryder
  • pyliau o banig
  • anhwylder gorfodaeth obsesiynol
  • ffobiâu
  • iselder manig (anhwylder deubegwn)
  • sgitsoffrenia

Datgelu

Nid yw’r gyfraith yn eich gorfodi i ddatgelu problemau iechyd meddwl oni bai fod rhywun yn gofyn cwestiwn uniongyrchol i chi mewn cyfweliad. Os nad ydych yn datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gwestiynau penodol am eich iechyd neu am fwlch yn hanes eich cyflogaeth, gallwch gael eich diswyddo am gelu gwybodaeth yn fwriadol. Fodd bynnag, os na ofynnir cwestiynau ac os nad ydych yn datgelu problemau iechyd meddwl, gallai’r cyflogwr eich diswyddo os oes problemau’n codi yn ystod blwyddyn gyntaf eich cyflogaeth.

Materion Penodol

Mae gwaith ymchwil gan y Sefydliad Iechyd Meddwl wedi dangos bod bron i 3 o bob 10 gweithiwr yn cael eu heffeithio gan broblem iechyd meddwl bob blwyddyn. Anhwylderau yn ymwneud â phryder ac iselder yw’r rhan fwyaf o’r achosion. Mae dros 91 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli bob blwyddyn oherwydd problemau iechyd meddwl.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, dylai polisi iechyd meddwl fod yn rhan annatod o bolisi iechyd a diogelwch unrhyw sefydliad. Wrth gyflwyno polisi iechyd meddwl, mae sefydliad yn dangos ymrwymiad i’r mater pwysig hwn.

Yn aml iawn, y peth anoddaf am fod ag anabledd – boed yn un corfforol neu feddyliol – yw agweddau pobl eraill. Mae polisi cyfle cyfartal sy’n cynnwys problemau iechyd meddwl ac sy’n codi ymwybyddiaeth staff o faterion iechyd meddwl trwy hyfforddiant ynghyd ag ymrwymiad rheolwyr i bolisi iechyd meddwl yn gallu effeithio’n fawr ar agweddau pobl eraill. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau nad yw gweithwyr anabl dan anfantais yn y gweithle. Mae’r DDA hefyd yn gwahardd cyflogwyr rhag gwahaniaethu ar sail anabledd. Ni fydd angen gwneud addasiadau i’r amgylchedd gwaith i bawb sydd â phroblemau iechyd meddwl, ond wrth hysbysu’ch cyflogwr am broblemau iechyd meddwl, byddwch yn sicrhau ei fod yn gorfod cydymffurfio â’r ddeddf a darparu trefniadau gweithio priodol lle bo angen. Bydd hefyd yn sicrhau na chaiff y cyflogwr wahaniaethu yn erbyn pobl â phroblemau iechyd meddwl wrth recriwtio staff. Hwyrach y bydd pobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor yn gymwys i dderbyn cymorth dan y cynllun Mynediad i Waith.

Gwahaniaethu yn erbyn eich gweithwyr

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn erbyn gweithwyr anabl ar sail eu hanabledd:

  • o ran telerau ac amodau eu cyflogaeth
  • o ran cyfleoedd dyrchafiad, trosglwyddiad, hyfforddiant neu fuddion eraill, a/neu trwy wrthod rhoi’r cyfleoedd hyn iddyn nhw
  • trwy eu diswyddo yn annheg
  • trwy eu trin yn llai ffafriol na gweithwyr eraill.

Yn naturiol, mae cyflogwyr am benodi’r person gorau ar gyfer pob swydd. Nid yw’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) yn ymyrryd â hyn. Wrth gydymffurfio â’r DDA byddwch yn sicrhau nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail anabledd wrth benodi’r person gorau i’r swydd. Bydd hefyd yn eich helpu i feithrin perthynas dda â’ch gweithwyr trwy ddangos eich bod yn rhoi cyfle cyfartal i bob gweithiwr, beth bynnag yw ei anabledd.

Wrth fabwysiadu arferion da a chydymffurfio â dyletswyddau a gofynion y DDA, byddwch yn lleihau’r perygl o achosion cyfreithiol a chyhoeddusrwydd gwael. Gall fynd yn groes i ofynion y DDA arwain at achos mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Mynediad i Waith

Cynhelir y rhaglen Mynediad i Waith gan y Ganolfan Byd Gwaith, ac fe’i hariennir gan y llywodraeth. Mae’n cynnig cymorth ariannol tuag at y costau ychwanegol o gyflogi person anabl. Mae’r cynllun ar gael i’r di-waith, pobl gyflogedig a hunan-gyflogedig ac mae’n berthnasol i unrhyw swydd, boed yn llawn amser neu’n rhan-amser, parhaol neu dros dro.

Mae’r arian sydd ar gael yn dibynnu ar statws cyflogedig y person anabl adeg y cais.

pobl ddi-waith sy’n dechrau swydd a phobl hunan-gyflogedig
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwy
pobl sy’n newid swydd
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwy
pobl gyflogedig sydd wedi gweithio i’r cyflogwr ers chwe wythnos neu fwy
Ni fydd Mynediad i Waith yn gwneud cyfraniad at gostau dan £300. Pan fo’r costau dros £300, bydd y rhaglen yn talu hyd at 80% o’r costau hyd at £10,000 a hyd at 100% o’r costau tros £10,000.

Mae arian Mynediad i Waith ar gael am hyd at dair blynedd. Cynhelir adolygiad o amgylchiadau ac anghenion cymorth unigolyn os oes angen arian pellach ar ôl y cyfnod hwn.

Gwybodaeth Bellach

Gweinyddir rhaglen Mynediad i Waith gan y Ganolfan Byd Gwaith. www.jobcentreplus.gov.uk/cms.asp?Page=/Home/Customers/HelpForDisabledPeople/AccesstoWork

Nodyn: Nid yw arian Mynediad i Waith ar gael yn ôl-weithredol. Ni fydd y rhaglen yn ad-dalu unrhyw daliadau a wnaed eisoes tuag at y gost o addasiadau rhesymol.

Dyletswyddau Cyflogwyr

Mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol er mwyn atal gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys materion fel recriwtio, dethol, hyfforddi, dyrchafu, diswyddo a pholisïau ac arferion dileu swyddi. Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol, mae polisi cyfle cyfartal ysgrifenedig yn dangos ymrwymiad i ddatblygu arferion personél anwahaniaethol.

Gall cyflogwyr archwilio eu gweithle er mwyn nodi meysydd ymarfer neu ddiwylliant a all effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl, a mynd ati wedyn i’w haddasu. Mae hefyd yn werth ystyried polisïau fel gadael i weithwyr ddychwelyd i’r gwaith yn raddol ar ôl cyfnod o salwch meddwl er mwyn eu cefnogi a chadw gweithwyr profiadol. Gallech hefyd ystyried rhyddhau gweithwyr o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau cynghori/seicotherapi yn yr un modd ag y byddech yn eu rhyddhau ar gyfer apwyntiadau meddygol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
BBC
Mae gwefan y BBC yn rhoi sylw i nifer o faterion iechyd meddwl.
Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Gwefan gynhwysfawr arall am iechyd meddwl a chyflyrau tebyg.
Mind
Y Gymdeithas Iechyd Meddwl Genedlaethol. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a chyngor ar gyflogaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am eich cangen leol o MIND.
Gwefan iechyd meddwl y GIG
Adnodd cynhwysfawr
SANE
Nod SANE yw codi ymwybyddiaeth a pharch tuag at bobl â salwch meddwl a’u teuluoedd, gwella addysg a hyfforddiant a sicrhau gwasanaethau gwell ar eu cyfer. Mae hefyd yn gwneud gwaith ymchwil i achosion salwch meddwl difrifol trwy Ganolfan Ryngwladol Tywysog Cymru ar gyfer Ymchwil SANE.

Rhoi nod tudalen gyda: