GO Wales

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – CREFYDD

Safbwynt y Cyflogwr

Diffiniadau

Crefydd

Daeth y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Crefydd neu Gredo) i rym ar 1af Rhagfyr 2003. Er mwyn dod o dan rawd y rheoliadau, dylai crefydd neu gredo fodloni un neu ragor o’r meini prawf canlynol:

  • cynnwys cydaddoli
  • cynnig cyfundrefn gredo glir
  • bod yn gredo ddwys sy’n effeithio ar ffordd-o-fyw neu fydolwg

Datgeliad

Nid yw’r Rheoliadau yn gofyn i unigolion ddatgelu’u crefydd neu gredo i gyflogwr neu ddarpar-gyflogwr. Nid oes dim yn y ddeddfwriaeth sy’n dweud bod yn rhaid i gyflogeion posibl ddatgelu eu crefydd neu gredoau. Gall cyflogwr wahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn unigolyn ar sail y grefydd neu’r gredo honno hyd yn oed lle nad yw’r cyflogwr yn ymwybodol o’r grefydd neu’r gredo honno.

Ni ddylai cwestiwn sy’n berthnasol i grefydd neu gredo gael ei gynnwys ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad ond os oes angen galwedigaethol dilys ar gyfer y swydd.

Materion Penodol

Cafwyd y ffigyrau canlynol yn y DU yn sgil Cyfrifiad 2001 a hynny o 42 miliwn o ymatebion:

  • Roedd 72% yn Gristion
  • Nid oedd unrhyw grefydd gan 16%
  • ni chafwyd ymateb i’r cwestiwn gan dros 7%
  • roedd bron 3% yn Fwslim
  • roedd llai na 1% yn Fwdiaid, Hindwiaid, Iddewon neu Siciaid

Er bod deddfwriaeth cysylltiadau hiliol flaenorol wedi darparu rhywfaint o ddiogelwch i rai grwpiau crefyddol, ni fu diogelwch cynhwysol arbennig erioed i’r rhan fwyaf o grefyddau na chredoau. Ar hyn o bryd, mae arferion gorau ar ran y cyflogwr yn rhagdybio bod crefydd neu gredo’r unigolyn yn cael eu cynnwys o dan y Rheoliadau.

Dangoswyd mewn Arolwg gan y Swyddfa Gartref yn 2001 mai cyflogaeth yw un o’r tri maes yn ein bywydau lle mae pobl o gyrff crefyddol yn fwyaf tebygol o wynebu triniaeth annheg. Y ddau arall oedd addysg a’r cyfryngau.

Deddfwriaeth

Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Crefydd neu Gredo) i rym ar 1af Rhagfyr 2003. Yn y bôn, diogelir pobl sy’n arddel unrhyw grefydd neu gredo yn y gweithle rhag gwahaniaethu, uniongyrchol ac anuniongyrchol, aflonyddu ac erledigaeth ar sail y grefydd neu’r gredo honno. Mae’r gyfraith yn cynnwys pob agwedd ar gyflogi, o geisio am swydd trwodd i gael geirda wrth ymadael â swydd. Mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant, dyrchafiad, pensiynau a hawliau gweithwyr/wragedd contract. Mae’r rheoliadau hefyd yn cynnwys gwahaniaethu ar sail crefydd ganfyddedig. Mae arddel crefydd arbennig ai peidio mewn gwirionedd yn amherthnasol os byddant yn cael eu hanffafrio oherwydd bod rhywun arall yn meddwl neu’n rhagdybio hynny.

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd lle y bydd y naill unigolyn yn trin y llall yn llai ffafriol oherwydd ei ch/grefydd neu gredo. Mae’n cynnwys triniaeth fel aflonyddu, methiant i ddyrchafu, diffyg cyfleoedd hyfforddiant a diswyddo.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pryd y bydd cyflogwr yn gweithredu polisi neu arferiad sy’n rhoi pobl sy’n arddel crefydd neu gredo arbennig o dan anfantais o’u cymharu â phobl eraill. Er enghraifft, gofyn iddynt ddod i gysylltiad ag alcohol neu i weithio ar y Sul.

Yn yr un modd â chyfreithiau gwahaniaethu eraill, mae’r rheoliadau’n dweud bod y cyflogwr yn gyfrifol am wahaniaethu a wneir gan ei gyflogeion.

Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer:

  • Gweithio’n hyblyg – efallai y bydd angen i rai gweithwyr/wragedd weddïo ar adegau arbennig, a dylent gael gweithio’n hyblyg er mwyn hwyluso hyn. Fek arfer, gellir defnyddio gwyliau blynyddol i ddibenion gwyliau crefyddol neu gellid trefnu gwyliau digyflog i hwyluso eu mynychu. Fodd bynnag, mae’n bwysig na ddylai pobl o grefydd arbennig gael gwell telerau ac amodau na chyflogeion eraill yn y cwmni.
  • Gwisg – lle mae crefydd yn gofyn am eitemau dillad neu emwaith penodol, dylid caniatáu hyn oni bai ei fod yn torri rheoliadau iechyd a diogelwch. Hefyd, ni ellir eu gwisgo os oes angen galwedigaethol dilys i beidio â gwneud hynny.
  • Diet – dylid cwrdd ag anghenion pan fydd bwyd yn cael ei ddarparu yn y gwaith

Caniateir rhai eithriadau o dan amgylchiadau penodedig iawn. Er enghraifft, byddai Ysgol Gatholig yn gallu rhoi achos gerbron dros gyflogi pennaeth Catholig yn unig ond byddent yn annhebygol o gyfiawnhau hyn yn achos staff ategol megis glanhawr/wraig neu weithiwr/wraig sy’n gofalu am diroedd yr ysgol.

Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn cydnabod y manteision o gael gweithlu amrywiol I recriwtio’r cyflogeion gorau y mae’n rhaid i chi ystyried y gronfa graddedigion gyfan heb gau neb allan ar sail rhyw, hil, anabledd na chrefydd. Mae busnesau’n sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os bydd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Cyfrifoldebau Cyflogwyr

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon. Dylai’r cyfrifoldeb yma fod yn berthnasol i bolisïau ac arferion recriwtio, dewis a dethol, hyfforddi, dyrchafiad, diswyddo ac anghyflogi. Er nad oes gofyn cyfreithiol, dengys polisi cyfleoedd cyfartal ysgrifenedig ymroddiad i ddatblygu arferion personél nad ydynt yn gwahaniaethu.

  • Sicrhewch fod gan eich cwmni bolisi cyfleoedd cyfartal gan ei adolygu’n rheolaidd
  • Hyfforddwch staff mewn cyfleoedd cyfartal
  • Cadwch gofnodion o gyfweliadau sy’n dangos pam bod ymgeiswyr wedi cael eu gwrthod a chadwch gofnodion cyflogi’n hollol gyfredol
  • Dylai’r holl gyflogeion posibl a phresennol gael eu barnu ar eu gallu, profiad, addysg ac unrhyw feini prawf eraill sy’n berthnasol i’r swydd
  • Sicrhewch fod cwynion yn cael eu hystyried o ddifri, eu hymchwilio’n iawn ac, os oes angen, yr ymdrinnir â hwy
  • Cynhaliwch arolygon staff i helpu nodi lle y gall gwahaniaethu fodoli oddi mewn i’ch busnes

Adnoddau

Sylwer: Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.

ACAS
The Advisory Conciliation and Arbitration Service. Y nod yw gwell cyrff a bywyd gweithiol trwy well cysylltiadau cyflogi.
BBC
Gwefan Crefydd ac Moeseg.
BITC
Business in the Community (Busnes yn y Gymuned).
CRE
Commission for Racial Equality (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Corff anllywodraethol a sefydlwyd i ymdrin â gwahaniaethu ar sail hiliol a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
DTI
The Department for Trade and Industry (Adran Fasnach a Diwydiant).
EOC
The Equal Opportunities Commission (Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal). Y brif asiantaeth sy’n gweithio i ddileu gwahaniaethu ar sail rhyw.
Y Swyddfa Gartref
Ymchwil ar grefydd a gwahaniaethu.
Uned Gydraddoldeb Hiliol
Y prif adran y llywodraeth ar gyfer materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.
Race for Opportunity
Ffeithlen ‘Rheoli y Ddeddfwriaeth Newydd ar Grefydd a Chredo’.

Rhoi nod tudalen gyda:

chwilio

Wedi methu dod o hyd i'r hyn yr oeddech yn chwilio amdano?