Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – GOGWYDD RHYWIOL

Safbwynt y Cyflogwr

Diffiniadau

Gogwydd Rhywiol

Diffinnir gogwydd rhywiol fel gogwydd tuag at bobl o’r un rhyw, y rhyw cyferbyniol neu’r ddau ryw. Nid yw’r diffiniad o ogwydd rhywiol yn cynnwys arferion rhywiol – er enghraifft, sadomasocistiaeth.

Datgeliad

Bydd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn aml yn cwestiynu a ddylid datgelu gwybodaeth bersonol, megis rhywioldeb a bywyd teuluol wrth wneud cais am swydd neu pan fyddant yn dechrau yn y gwaith. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddatgelu gogwydd rhywiol.

Materion Penodol

Deddfwriaeth

Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Gogwydd Rhywiol) 2003

Mae Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Gogwydd Rhywiol) 2003 yn gwahardd gwahaniaethu ar sail gogwydd rhywiol yn y gweithle ledled gwledydd Prydain. Maent yn cynnwys pob agwedd ar gyflogi o recriwtio i gyflog ac amodau gwaith drwodd i ddiswyddo.

Mae’r gyfraith yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail gogwydd rhywiol. Mae’n cynnwys gogwydd tuag at bobl o’r un rhyw, pobl o’r rhyw cyferbyniol neu bobl o’r ddau ryw. Felly, mae’n diogelu lesbiaid, dynion hoyw, deurywoliaid a heterorywioliaid yn eu gwaith ac mewn hyfforddiant galwedigaethol. Nid yw’n caniatáu:

  • Gwahaniaethu uniongyrchol – trin pobl yn llai ffafriol oherwydd eu gogwydd rhywiol
  • Gwahaniaethu anuniongyrchol – gweithredu arferiad sy’n rhoi pobl sydd â gogwydd rhywiol arbennig o dan anfantais na ellir ei gyfiawnhau mewn termau gwrthrychol
  • Aflonyddu – ymddygiad diangen sy’n creu amgylchedd bygythiol neu dramgwyddus
  • Erledigaeth – trin pobl yn llai ffafriol oherwydd rhyw weithrediad maent wedi’i gyflawni o dan y ddeddfwriaeth – er enghraifft, os yw rhywun wedi gwneud cwyn ffurfiol ynglyn â gwahaniaethu

Mae’r gyfraith hefyd yn cynnwys canfyddiadau o ogwydd rhywiol. Fel hyn mae’n diogelu pobl y rhagdybir – yn gam neu’n gymwys – fod ogwydd rhywiol arbennig ganddynt.

Cyflogwyr Cadarnhaol

Mae llawer iawn o gyflogwyr yn mynd ymhell i hysbysebu eu cefnogaeth i hawliau Lesbiaid, Hoywon a Phobl Ddeurywiol ac amrywiaeth eu gweithlu. Dangosir arwydd o agwedd glên tuag at Lesbiaid, Hoywon a Phobl Ddeurywiol trwy’r canlynol

  • Cyfranogaeth mewn mentrau amrywiaeth – ar y campws neu yn eich ardal
  • Polisi cyfleoedd cyfartal sy’n cyfeirio at ogwydd rhywiol
  • Swyddog amrywiaeth wedi’i ph/benodi
  • Gweithdrefnau yn eu lle os ceir aflonyddu
  • Rhwydwaith Lesbiaid Hoywon a Phobl Ddeurywiol i’r cyflogeion

Cyfrifoldebau Cyflogwyr

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i atal gwahaniaethu anghyfreithlon. Dylai’r cyfrifoldeb yma fod yn berthnasol i bolisïau ac arferion recriwtio, dewis a dethol, hyfforddi, dyrchafiad, diswyddo ac anghyflogi. Er nad oes gofyn cyfreithiol, dengys polisi cyfleoedd cyfartal ysgrifenedig ymroddiad i ddatblygu arferion personél nad ydynt yn gwahaniaethu.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
ACAS
The Advisory Conciliation and Arbitration Service (Y Gwasanaeth Cymodi a Chyflafareddu Ymgynghorol). Ei nod yw gwella cyrff a bywyd gweithiol trwy gysylltiadau cyflogi gwell.
Armed Forces Lesbian and Gay Association
Consortium of lesbian, gay, bisexual & transgendered voluntary and community organisations
DTI
The Department for Trade and Industry (Adran Fasnach a Diwydiant). Gwybodaeth ar ddeddfwriaeth.
Fusion
Gwefan Amrywiaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth Myfyrwyr Prifysgol San Steffan.
Lesbian and Gay Police Association
Prospects
Information on a wide range of careers issues
Stonewall
Grŵp hawliau sifil sy’n gweithio ar gyfer cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol.
TIGER
Tailored Interactive Guidance on Employment Rights. Wedi’i gynllunio i ddarparu arweiniad hawdd ei ddefnyddio trwy wahanol agweddau ar gyfraith gyflogi’r DU.
The Gay Business Association

Rhoi nod tudalen gyda: