CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – ANFANTAIS GYMDEITHASOL
Safbwynt y Cyflogwr
Diffiniadau
- Dosbarth Cymdeithasol
-
Gall diffinio dosbarth cymdeithasol fod yn dasg anodd mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â’r maes yma.
- Anfantais Gymdeithasol
-
Fel y noda Llywodraeth Cynulliad Cymru mai achosion anfantais gymdeithasol yn gymhleth ac nid oes unrhyw ateb unigol na syml.
Materion penodol
Bydd Sefydliadau Addysg Uwch yn defnyddio nifer o ffactorau er mwyn pennu pwy sy’n dod o grwpiau cymdeithaso-economaidd tan-gynrychioledig. Mae’r rhain yn cynnwys galwedigaethau rhieni, cod post, lefel cyrhaeddiad addysgol eich rhieni neu fynychu ysgol benodol. Nid oes yr un o’r rhain yn ddangosydd cywir iawn o gefndir cymdeithasol. Mae’r unigolion sy’n syrthio oddi mewn i’r dosbarthiad hwn yn amrywiol tu hwnt. Fel y cyfryw, gall rhai o’r pwyntiau a godir isod fod yn berthnasol i chi, tra na fydd rhai eraill yn gymwys.
Yn ystod y ddau ddegawd ddiwethaf, mae darparu addysg yn y DU wedi ehangu’n sylweddol. Ceir sawl menter sydd wedi’u hanelu at ddenu pobl o gefndiroedd anhraddodiadol. Fodd bynnag, er gwaethaf cynnydd cyffredinol yn y gynrychiolaeth ar draws pob grwp cymdeithasol, mae’r bwlch rhwng lefelau cyfranogaeth pobl ifainc gyfoethog a’r rhai sydd heb fod mor freintiedig wedi parhau. Felly, er y bu cynnydd yn niferoedd y rhai sy’n mynd i brifysgolion o’r cefndiroedd sydd heb fod yn draddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu pobl ifainc o’r fath yn mwynhau llai o lwyddiant mewn addysg uwch yn ôl ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree.
Wrth recriwtio cyflogeion o wahanol gefndiroedd, efallai, gall fod yn fuddiol i fod yn ymwybodol o rai o’r prif resymau am hyn:
- Mae myfyrwyr sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o ymadael â’u cyrsiau neu o hepgor y cyfle i symud ymlaen i gyrsiau uwch.
- Maent hefyd yn fwy tebygol o ddilyn llwybrau cymhleth oddi mewn i addysg uwch gan gynnwys gohirio cofrestru, blynyddoedd allan a newid, ail-wneud neu ailgychwyn eu cyrsiau am resymau anacademaidd.
Y ffactorau y tu ôl i’r anawsterau hyn yw:
- Bod yn anghyfarwydd ag addysg uwch – gall hyn arwain pobl o gefndiroedd anhraddodiadol i ymgofrestru ar gyrsiau anaddas. Mewn llawer iawn o achosion, nhw fydd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol
- Diffyg sicrwydd ariannol – mae hyn yn cyfyngu ar ddewis y cyrsiau a hyd yr amser y mae pobl yn fodlon aros mewn addysg uwch cyn bod rhaid iddynt gael hyd i swydd
- Pryderon am ddyled – yn sgil benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau eraill. Ymddengys fod pryderon am ddyled yn fwy o rwystr i fyfyrwyr sy’n aros mewn addysg uwch na’r symiau maent wedi’u benthyca mewn gwirionedd.
- Mae costau – byw oddi cartref neu gostau cymudo’n cyfyngu ar ddewis y sefydliadau y byddai rhai myfyrwyr yn gallu eu mynychu
- Arwahaniad a morâl isel – ymhlith myfyrwyr sy’n teimlo eu bod mewn gwrthdaro diwylliannol rhwng bywyd yn y brifysgol a’u cefndiroedd cartref. Weithiau, bydd myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael anhawster wrth ‘ffitio i mewn’. Bydd eraill yn mynd ati’n fwriadol i ddewis cyrsiau ar sail a fyddant yn teimlo allan o’u cynefin ai peidio.
Er bod llawer iawn o’r prif gyflogwyr wedi coleddu’r angen i sicrhau bod eu dulliau recriwtio’n deg i fyfyrwyr anabl neu fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, ni wneir ymdrech i’r un graddau i ehangu recriwtio o ran dosbarth cymdeithasol. Efallai y bydd dealltwriaeth o’r mecanweithiau gwahaniaethu yn cynyddu’r posibiliadau i’w goresgyn.
Yn ddamcaniaethol, mae systemau gwneud cais safonol a ddefnyddir gan y prif recriwtwyr graddedigion, yn cynnig cyfle cyfartal i bawb. Hefyd, yn ddamcaniaethol, mae gradd 2:1 o brifysgol newydd i fod o’r un safon ag un o Gaergrawnt neu Rydychen. Ar yr un pryd, bydd unrhyw recriwtiwr sy’n wynebu niferoedd mawr o ymgeiswyr yn chwilio am ffyrdd o leihau’r dewis. Un dacteg gyfarwydd yw mynnu lefel benodol o bwyntiau UCAS, sydd fwyaf tebygol o gael eu cyrraedd gan rywun sydd wedi cael addysg uwchradd dda, o bosibl trwy ysgol annibynnol. Dull arall yw targedu prifysgolion dethol (y gall fod gan eu myfyrwyr yr un lefel uchel o bwyntiau UCAS).
Fodd bynnag, mae proffil cyffredinol myfyriwr graddedig yn newid. Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn cydnabod y manteision o gael gweithlu amrywiol ac mae busnesau’n sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os bydd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Bydd graddedigion o gefndiroedd cymdeithasol arbennig yn mynegi pryder ynglyn â’r broses recriwtio. Amlinellir rhai o’r materion hyn isod:
- Bod y broses gyfweld ac, yn fwyaf arbennig, y craffu manwl iawn y mae ymgeiswyr yn mynd drwyddi mewn canolfannau asesu, yn ffafrio’r hunanhyderus.
- Gall dulliau’r cyflogwyr o ddethol wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn y rheini o gefndiroedd arbennig. Er enghraifft, ffafrio bod ymgeiswyr wedi ymgymryd â gwahanol weithgareddau tramor. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o brofiad gwaith a gweithgareddau gwirfoddol a wnaethpwyd yn y DU yn ffurfiau gwerthfawr ar ddatblygiad personol
- Mae acenion rhanbarthol cryfion yn peri peth pryder i rai pobl. Fodd bynnag, mae canran y bobl sy’n siarad yn null Ynganiad Derbyniedig erbyn heddiw’n eithriadol fach. Mae acenion rhanbarthol yn dderbyniol, er enghraifft, ym myd y radio a’r teledu. Mae sgiliau cyfathrebu’n bwysig ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, felly mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â’r gallu i’w mynegi eu hunain yn glir ac yn fanwl gywir.
- Gwelir rhai proffesiynau i fod yn rhai ‘dosbarth canol’. Mae peth gwirionedd yn y gosodiad yma, er bod llawer iawn o gyrff/sefydliadau sy’n gwerthfawrogi’r manteision o weithlu amrywiol, yn rhoi mwy o bwyslais ar arwyddion o fod â’r sgiliau angenrheidiol i wneud y gwaith.
- Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn ystyried bod y rheini sy’n byw gartref tra’n astudio fel rhai sy’n ‘ofni mentro’. Ceir llawer o resymau heblaw hynny pam bod unigolyn wedi aros gartref wrth gwblhau eu hastudiaethau.
Adnoddau
Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
- ACAS
- The Advisory Conciliation and Arbitration Service. Y nod yw gwell cyrff a bywyd gweithiol trwy well cysylltiadau cyflogi.
- Pob math o swyddi gwag ar gyfer lleoliadau gwaith ar draws y DU
- CRE
- Commission for Racial Equality (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Corff anllywodraethol a sefydlwyd i ymdrin â gwahaniaethu ar sail hiliol a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
- DTI
- Department for Trade and Industry (Yr Adran Diwydiant a Masnach).
- Lleoliadau gwaith gyflogedig wyth wythnos yn yr haf yn yr Alban a Lloegr
- EOC
- Equal Opportunities Commission (Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal). Y brif asiantaeth sy’n gweithio i ddileu gwahaniaethu ar sail rhyw.
- GO Wales
- Mae lleoliad gwaith a rhagflas ar waith yn agored i bob myfyriwr a myfyriwr graddedig beth bynnag bo’u hoedran neu’u hanabledd.
- Prospects
- Gwybodaeth am amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gyrfaoedd
- Uned Gydraddoldeb Hiliol
- Y prif adran y llywodraeth ar gyfer materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.
- TIGER
- Tailored Interactive Guidance on Employment Rights. Wedi’i gynllunio i ddarparu arweiniad hawdd ei ddefnyddio trwy wahanol agweddau ar gyfraith gyflogi’r DU.
Rhoi nod tudalen gyda: