Mae Touch Trust yn elusen arloesol sy'n gweithredu o Ganolfan y Mileniwm ac yn cynnal Rhaglenni Addysg Symud Creadigol ar gyfer unigolion sydd ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, anghenion cymhleth ac sy'n ymddwyn yn heriol.
Diben cyffredinol y prosiect oedd sefydlu rhestr o fathau cadarnhaol a negyddol o ymddygiad gan y plant tuag at staff a gofalwyr Touch Trust yn ystod astudiaeth arsylwadol a oedd yn para 10 wythnos.
Dysgodd Romani lawer iawn am ymddygiad wrth weithio gyda phlant awtistig, a datblygodd sgiliau o ran technegau ymchwilio a dadansoddi.
“Yn ystod y lleoliad cefais gyfle i ddangos fy agwedd gyfeillgar a phroffesiynol tuag at y gwaith a wnes i gyda phlant ac oedolion ag awtistiaeth. Trwy Touch Trust, cefais gyfle i ddysgu o safbwynt theori a gwaith ymarferol.”
Rhoddodd y lleoliad gyfle i Touch Trust wneud gwaith ymchwil gwerthfawr a fydd yn eu helpu wrth iddynt dyfu a datblygu.
Dywedodd Charlotte Aubrey, Cyd-gysylltydd Prosiectau Creadigol a Hyfforddiant Touch Trust, ei bod yn fodlon iawn â'r ffordd y gwnaeth Romani ymgynefino ag ethos yr elusen yn ystod ei brofiad gyda Touch Trust:
“Roedd hi'n bleser cael Romani ar leoliad gyda ni. Cwblhaodd rai prosiectau ymchwil ar fanteision ein rhaglen addysg symud creadigol i unigolion ar y sbectrwm awtistig. Bydd y gwaith ymchwil o fudd mawr i dwf a datblygiad Touch Trust. Mae Romani wedi ymgyfarwyddo'n dda iawn ag ethos Touch Trust ac mae'n sensitif a gofalgar iawn tuag at ein gwesteion arbennig.”
Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am gyfnodau blas ar waith, ffoniwch GO Wales ar 0845 225 60 50 neu e-bostiwch info@gowales.co.uk gan nodi'r geiriau "astudiaeth achos".
Rhoi nod tudalen gyda: