Testun yn unig
Heledd Davies

Astudiaethau Achos GO Wales

Cynorthwy-ydd Ymchwil a Swyddog Cymorth - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Communities First
Prosiect
Cynorthwy-ydd Ymchwil a Swyddog Cymorth
Ymgeisydd
Heledd Davies

Mae Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi cyfle i bobl leol gymryd rhan ymarferol yn y gwaith o lunio dyfodol eu cymunedau. Mae'n ymwneud â chynorthwyo cymunedau, grwpiau ac unigolion i ganfod eu llais a defnyddio'u sgiliau a'u profiadau i newid, herio, trafod, perswadio a chyd-gynllunio er lles eu cymunedau.

Amcan y Prosiect

Cyflogwyd Heledd, sydd â gradd mewn Seicoleg, gan Cymunedau yn Gyntaf i gynorthwyo grŵp llywio Cymunedau yn Gyntaf a chydgysylltu ymdrechion ei aelodau i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf sydd ar fin cychwyn yn Ward Trowbridge. Roedd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth oddi wrth y gymuned, cynllunio cylchlythyr/holiadur/crysau-t, lansio a hyrwyddo cystadlaethau, gwaith cychwynnol ar gynllunio a lansio gwefan ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor a'r fforwm ar y canfyddiadau.

Canlyniad y Prosiect

Gwnaeth Heledd nifer o gysylltiadau gwerthfawr ledled y ward a chasglodd lawer o wybodaeth bwysig ar gyfer y prosiect. Roedd y manteision i'r prosiect yn cynnwys hyrwyddo a chodi proffil yn y gymuned.

Er bod gan Heledd rywfaint o brofiad gwaith, roedd hi'n teimlo bod ei lleoliad gwaith gyda Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn 'agoriad llygad o ran cydlynu gwaith sefydliadau ac unigolion'. Roedd hi wedi datblygu 'sgiliau cyfryngu, sgiliau diplomyddol a sgiliau rheoli prosiect' ac roedd y lleoliad gwaith wedi'i helpu i ganolbwyntio ar ei dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Uwch Gynghorydd Into Work, Marge Wyton fod Lleoliadau Gwaith GO Wales yn:

“gynllun gwerthfawr sy'n rhoi profiad gwirioneddol i bobl nad ydynt efallai wedi cael profiad o'r blaen. Neu yn achos Heledd, mae'r cynllun yn galluogi pobl sydd eisoes â phrofiad o weithio, i gael profiad mewn meysydd gwahanol, ac yn galluogi'r unigolyn i ganolbwyntio a phennu nodau hirdymor”.

Dywedodd hefyd fod:

“Heledd yn egniol a chanddi agwedd arloesol at y gwaith prosiect a bydd pawb yn gweld ei cholli.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am gyfnodau blas ar waith, ffoniwch GO Wales ar 0845 225 60 50 neu e-bostiwch info@gowales.co.uk gan nodi'r geiriau "astudiaeth achos".

Rhoi nod tudalen gyda: