Cwmni peirianneg bach sydd wedi'i leoli mewn gweithdy ger Cribyn, Llambed yw Highpath Engineering.
Amcan y prosiect oedd datblygu cynhyrchion sy'n bodoli'n barod ar gyfer y busnes gan gynnwys 28 cylch cadwyn ar gyfer tîm seiclo Awstralia yng Ngemau Olympaidd 2008.
Roedd gofyn i Emma gynorthwyo gyda phob agwedd ar y busnes peirianneg bach hefyd.
Gwnaeth Emma gyfraniad sylweddol at y gwaith gweithgynhyrchu bob dydd a'r gwaith datblygu cynnyrch. Llwyddodd i fwy neu lai haneru costau cynhyrchu dwy eitem. Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni gynnig lleoliad gwaith ac fe wnaeth gallu Emma argraff fawr arnyn nhw.
Dysgodd Emma i roi'r sgiliau a fagodd yn y brifysgol ar waith mewn amgylchedd mwy ymarferol. Datblygodd fwy o wybodaeth am weithio mewn busnes bach a chanolig ac fe wnaeth hi fwynhau'r tasgau a roddwyd iddi.
Bu Chris Bell, perchennog Highpath, yn cydweithio'n agos ag Emma gydol y lleoliad.
“Fe wnaeth Emma argraff fawr arna i trwy weithio'n llawn brwdfrydedd ar bob tasg y gofynnwyd iddi ei gwneud. Roedd hi'n dysgu pethau newydd mewn dim o dro hefyd. Roedd hi'n help mawr i mi ac rwy'n credu ei bod hi wedi elwa llawer ar y profiad hefyd. Mae'r cynllun hwn wedi fy siomi ar yr ochr orau.”
Mae Emma'n gweithio ar ei phrosiect mawr olaf ar gyfer ei gradd MSc mewn Dylunio Cynnyrch Datblygedig ar hyn o bryd a bydd yn chwilio am swydd ar ôl gorffen:
“Roedd gweithio yn Highpath yn help mawr o ran penderfynu pa fath o swydd i chwilio amdani; 'dwi wedi bod yn edrych ar swyddi peirianneg yn ogystal â swyddi dylunio, ond cyn y lleoliad gwaith 'dwi ddim yn meddwl y buaswn wedi eu hystyried. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn.”
Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth am gyfnodau blas ar waith, ffoniwch GO Wales ar 0845 225 60 50 neu e-bostiwch info@gowales.co.uk gan nodi'r geiriau "astudiaeth achos".
Rhoi nod tudalen gyda: